Etholiadau Ewrop: Cyfri'r pleidleisiau
- Cyhoeddwyd

Mae'r broses o gyfri' pleidleisiau Etholiadau Senedd Ewrop wedi dechrau heno yn Abergwaun.
Bydd 4 Aelod Seneddol Ewropeaidd yn cael eu hethol heno i gynrychioli Cymru.
Mae disgwyl canlyniad tua hanner nos, a bydd y newyddion diweddara' yma ar BBC Cymru Fyw.
Mae ffigyrau dros dro canran yr etholwyr bleidleisiodd yn Etholiad Ewrop wedi eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Ar draws Cymru, y cyfartaledd oedd 32%.
Yn Ynys Môn roedd y ganran uchaf, gyda 38% yn bwrw pleidlais ond ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful dim ond 27% bleidleisiodd.
Ar ei flog Elections in Wales mae'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud ei bod hi'n anhebygol y bydd y ffigyrau dros dro yn newid ryw lawer.
'1.7% i fyny'
"Fe fyddai hynny yn golygu bod y nifer bleidleisiodd 1.7% i fyny ar ffigwr 2009 o 30.4%, sy'n gynnydd o fath ond prin ei fod yn orchest ar gyfer democratiaeth gyfranogol."
Dywedodd Dr Owain ap Gareth o Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru: "Er nad yw'r nifer ddaeth allan i bleidleisio yn syndod, dylai fod yn rhybudd na all y sefyllfa barhau fel hyn.
"Mae diddordeb mewn materion Ewropeaidd wedi bod yn uchel yn y cyfryngau ac ar flaen meddyliau pobl, ac eto mae'r gorsafoedd pleidleisio yn wag.
"Mae hyn yn dangos y diffyg brwdfrydedd mewn democratiaeth Ewropeaidd."