Northampton 30 - 16 Caerfaddon yn gêm derfynol Cwpan Amlin
- Cyhoeddwyd

Bydd George North yn gwenu wedi iddo ddychwelyd i Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd a chipio cwpan Amlin gyda'i glwb Northampton.
Roedd Gavin Henson ymhlith eilyddion Caerfaddon. Daeth ymlaen i'r cae ar ôl 62 munud ond methodd newid cwrs y gêm.
Mewn gwirionedd cicio oedd yn bwysig, gyda rhedeg grymus George North a chlo Lloegr Courtney Lawes yn cael ei amddiffyn gan Gaerfaddon.
Ciciodd maswr Northampton, Stephen Myler chwech o giciau cosb tra methodd George Ford amryw o giciau tuag at y pyst.
Roedd Caerfaddon ar y blaen ar hanner amser o 13 bwynt i dri yn dilyn cais yn erbyn y chwarae gan Anthony Watson.
Yn yr ail hanner torrodd Caerfaddon o dan bwysau Northampton, gan ildio ciciau cosb yn ogystal â cheisiau gan Phil Dowson a chyn-gefnwr Lloegr, Ben Foden.
Northampton (6) 30
Cais: Dowson, Foden. Tros Myler: Ciciau Cosb Myler 6
Caerfaddon (13) 16
Cais: Watson Tros Ford. Ciciau Cosb Ford 3