Stadiwm y Mileniwm: Y gêm olaf ar borfa
- Cyhoeddwyd

Ffeinal Cwpan Heineken 2014 fydd y gêm olaf i'w chwarae ar laswellt yn Stadiwm y Mileniwm.
Ar ôl i Toulon a Saracens gwblhau eu brwydr am gwpan Heineken ddydd Sadwrn, bydd Undeb Rygbi Cymru yn dechrau'r gwaith o ddatgymalu'r cae presennol, a gosod cae newydd yn ei le.
Bydd y carped newydd yn gyfuniad o wair naturiol a ffibrau artiffisial.
Y bwriad yw gwella cyflwr maes sydd wedi ei feirniadu yn aml gan chwaraewyr a chefnogwyr am fod yn fregus mewn mannau ac yn annheilwng o'r stadiwm genedlaethol.
Hwb i Gymru
Mae'r undeb rygbi yn hyderus bydd y system Desso newydd yn ei le ac yn barod ar gyfer y tymor newydd yn yr hydref.
Mae disgwyl tua 70,000 o gefnogwyr i ddod i wylio'r ffeinal ddydd Sadwrn. Dyma'r seithfed waith i'r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Roedd gwaith ymchwil wedi'r rownd derfynol yn 2011 yn dangos bod hwb o £24m wedi bod i'r economi.
Yn ôl y Gweinidog Economi, Edwina Hart mae digwyddiadau mawr fel y rhain yn golygu bod sylw'r cyfryngau yn troi at Gymru a bod yna fudd i'r economi.
Mi fydd nifer o ffyrdd ar gau ynghanol y ddinas rhwng tri ac wyth.