Y dirprwy brif athro Gareth Williams wedi ei ddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Gareth Williams ei garcharu am bum mlynedd

Mae dirprwy brif athro oedd yn ffilmio plant yn gudd ac efo miloedd o luniau anweddus yn ei feddiant wedi cael ei ddiswyddo. Roedd Gareth Williams yn gweithio yn Ysgol Gyfun Glantaf.

Ond mae Cyngor Caerdydd wedi dweud mewn datganiad bod "ei gytundeb wedi dod i ben" y diwrnod y cafodd ei ddedfrydu.

Mi gafodd Gareth Williams, 47 oed, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Llun ar ol pledio yn euog i 31 cyhuddiad - gan gynnwys cyhuddiadau o voyeuriaeth ac o greu lluniau anweddus .

Ddydd Mercher dywedodd y cyngor y bydden nhw yn cymryd y "camau priodol" rwan am fod yr achos llys wedi dod i ben. Y gred oedd ei fod yn ennill tua £65,000 y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:

"Mae'r broses yn gysylltiedig â Mr Williams wedi diweddu a dyw e nawr ddim yn cael ei gyflogi gan Ysgol Gyfun Glantaf. Mi ddaeth ei gytundeb i ben y diwrnod y cafodd ei ddedfrydu."