Dyn 25 oed ar goll: heddlu yn apelio am wybodaeth

  • Cyhoeddwyd
Matthew John Price
Disgrifiad o’r llun,
Dyw Matthew John Price ddim wedi ei weld ers dydd Mercher

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ynglŷn â Matthew John Price, 25 oed sydd ddim wedi ei weld ers dydd Mercher.

Cafodd ei weld adeg hynny yn ardal Cymer Y Porth yn y Rhondda toc wedi hanner nos.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel hyn 5'10 gyda gwallt brow. Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd yn gwisgo siwmper gyda hwd glas golau, jins glas a thrainers gwyn.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar y rhif 0800 555 111.