Rhybudd ynglŷn â pheryglon dŵr mewn chwareli
- Cyhoeddwyd

Mae perchnogion chwareli yn rhybuddio ynglŷn â pheryglon dŵr ar gyfer penwythnos gŵyl y banc ar ôl i ddau berson farw wythnos diwethaf.
Mi wnaeth dyn 20 oed farw wrth nofio mewn hen chwarel yn Ninbych a dyn arall 34 oed pan wnaeth ei gaiac droi drosodd yn y Bala.
Mae The Mineral Products Association (MPA), y corff sydd yn cynrychioli perchnogion chwareli yn dweud bod pobl ifanc yn arbennig yn cael eu temtio i nofio mewn chwareli pan mae'r tywydd yn boeth.
Dywedodd Elizabeth Clements o'r MPA:
"Mae trochi eich hun yn y dŵr pan mae'n boeth yn medru swnio fel syniad da. Ond mi allith pethau fynd o chwith gyda hyd yn oed y nofwyr cryfaf yn mynd i drafferthion."
"Dyw pobl ddim yn gwerthfawrogi bod y dŵr yn y chwarel yn medru bod yn oer iawn hyd yn oed os oes na gyfnod hir o dywydd braf. Mae dŵr oer yn medru achosi...i nofwyr lyncu dŵr i mewn yw hysgyfaint."
"Parchu'r rhybuddion"
Mae Gary Brandrick o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud ei bod nhw'n cael galwadau cyson i fynd i achub pobl.
Mae angen i bobl barchu'r arwyddion rhybuddio meddai:
"Dydy'r llefydd yma ddim yn lleoliadau antur. Mae na beryg go iawn o gael anafiadau difrifol neu o farwolaeth fel rydyn ni yn anffodus yn gwybod."
Mae'r elusen diogelwch RoSPA yn cefnogi'r ymgyrch ac yn dweud bod 6 person wedi marw ym Mhrydain ar ôl mynd i drafferthion mewn chwarel mewn cyfnod o dri mis y llynedd.
Maen nhw'n dweud bod nifer y marwolaethau am fod camgymeriadau yn digwydd fel disgyn i mewn i'r dŵr neu beidio lawn werthfawrogi pa mor oer yw'r dŵr.
Straeon perthnasol
- 19 Mai 2014
- 18 Mai 2014