Amau carcharor ar ffo o drywanu

  • Cyhoeddwyd
Charlie CaseyFfynhonnell y llun, Dorset Police
Disgrifiad o’r llun,
Mi wnaeth Charlie Casey ddianc o'r carchar agored mis Ebrill

Mae dyn 22 oed, sydd wedi dianc o garchar agored, yn cael ei amau o drywanu menyw 24 oed mewn parc gwyliau.

Mae'r heddlu yn credu mai Charlie Casey wnaeth drywanu'r fenyw yn Dorset nos Fercher. Mi fuodd yn rhaid i'r ddynes sydd yn dod o Gymru gael triniaeth yn yr ysbyty. Ond doedd ei hanafiadau ddim yn rhai difrifol.

Mae Casey wedi dianc o garchar agored ers mis Ebrill ac mi allai fod yn ardal Gwent, Binfield neu Slough.

Cyngor yr heddlu ydy na ddylai unrhyw un fynd ato os ydyn nhw yn ei weld.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn 6'1 gyda gwallt byr brown, llygaid glas ac acen Wyddelig.

Mae swyddogion yn gofyn i bobl sydd yn meddwl eu bod nhw wedi ei weld i gysylltu gyda'r heddlu ac yn apelio yn uniongyrchol at Charlie i gysylltu gyda nhw.