Rhybudd am law trwm
- Cyhoeddwyd

Mi achosodd y glaw ddydd Iau drafferthion ar y ffyrdd yng Nghaerdydd
Mae rhybudd melyn am law trwm ar gyfer rhan fwyaf o Gymru. Yn ol y Swyddfa Dywydd mi allai'r glaw trwm achosi trafferthion teithio.
Mae'r rhybudd yn ei le tan wyth nos Sadwrn. Mi allai rhai ardaloedd weld cymaint â 30mm o law mewn ychydig oriau.
Y de orllewin a de Cymru sydd yn debygol o weld y glaw gwaethaf.
Mi achosodd y tywydd lifogydd mewn ardaloedd yn Ne Cymru ddydd Iau.
Yng Nghwmbrân a Phenarth oedd y difrod gwaethaf ac mi gafodd dŵr ei bwmpio o dai mewn rhai strydoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2014