Y baton yn parhau ar ei daith
- Cyhoeddwyd

Mae Baton y Frenhines wedi cael ei gludo o'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i Landrindod ar ail ddiwrnod ei daith trwy Gymru.
Yn y Bathdy gwasgodd y neidiwr dros y clwydi Rhys Williams fotwm a chynhyrchu'r darn 50 ceiniog cynta' oedd yn nodi'r achlysur.
"Mae'n grêt bod yma," meddai. "Yn amlwg, mae pobol yn ymwybodol o'r gemau ac rwy'n gobeithio y bydd ras y baton yn creu mwy o ddiddordeb yn y gemau yn Glasgow.
"Hefyd mae'n annog pobol ifanc, pobol o bob oedran, i gymryd diddordeb mewn chwaraeon."
'Anrhydedd'
Un o'r cludwyr yn Rhondda Cynon Taf oedd Norman Richards, 74 oed o Donyrefail, gariodd y baton yng Ngemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958.
"Roedd yn anrhydedd enfawr yn 1958," meddai.
"Yn sicr, dwi'n teimlo'r un balchder wrth gludo'r baton yn fy sir i ... rwy wedi sôn sawl gwaith am yr hyn ddigwyddodd yn 1958 ... mae fy nheulu'n bresennol ddydd Sul wrth i hanes ailadrodd ei hun."
Y codwr pwysau Michaela Breeze gludodd y baton drwy Aberdâr.
"Mae'n anrhydedd ei gario drwy 'y nhre' i," meddai. "Gan fod y gemau'n ddigwyddiad mawr mae cymryd rhan yn wefreiddiol."
Only Men Aloud
Ar ôl i'r baton gyrraedd y parc roedd Only Men Aloud yn perfformio.
Dywedodd Peter Thomas o'r dre': "Mae'r tywydd yn siomedig ond mae'r sioe'n drawiadol."
Am 3.30 fe adawodd y baton Aberdâr a chyrhaeddodd Landrindod am 4.30. Y rhedwr 800m a 1500m Kirsty Wade gludodd y baton o gwmpas llyn wedi oedi oherwydd cawodydd trwm.
Dywedodd y faeres Elaine Worgan: "Mae'n ddiwrnod ffantastig a digon o bobol yn bresennol.
"Dwi'n falch bod y gymuned yn cefnogi digwyddiad fel hwn."
Nos Sadwrn cafodd y baton ei arddangos mewn gornest focsio ym Merthyr Tudful, ac fe gafodd ei gario i mewn i'r neuadd gan deulu'r bosciwr enwog o'r dre', Howard Winston.
Bydd yn teithio 731 milltir ( 1,176 o gilomedrau) o gwmpas Cymru yn ystod yr wythnos ac yn cyrraedd llefydd fel maes Eisteddfod yr Urdd, copa'r Wyddfa a chwt cychod Dylan Thomas.
Gadawodd y baton Balas Buckingham ar Hydref 9 y llynedd, gan ymweld â phob gwlad yn y Gymanwlad ar y ffordd i Glasgow.
71 o wledydd
Mae hynny'n golygu y bydd y baton wedi teithio 118,000 o filltiroedd drwy 71 o wledydd mewn saith mis erbyn i'r gemau ddechrau.
Ddydd Llun bydd y baton yn mynd i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala. Y rhedwr Iwan Thomas fydd un o'r cludwyr yno.
Yna bydd yn mynd i Sir Gâr a Sir Benfro cyn anelu am Fachynlleth a'r gogledd orllewin, gan gynnwys Caernarfon, Ynys Môn, Y Rhyl a Rhuthun.
Yn Sir Benfro bydd y baton yn mynd o Balas yr Esgob yn Nhyddewi a drwy dir y gadeirlan, lle bydd yn cael ei fendithio gan Esgob Tyddewi.
Bydd cymal Cymreig y baton yn gorffen yn Sir Ddinbych.
Straeon perthnasol
- 24 Mai 2014
- 23 Mai 2014
- 23 Mai 2014