Cludo'r baton ar Faes Eisteddfod yr Urdd
- Published
Mae baton Gemau'r Gymanwlad wedi cyrraedd Maes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala ar drydydd diwrnod ei daith trwy Gymru.
Cyn i'r baton fynd o amgylch y Maes fe holodd Cymru Fyw Cledwyn Ashford, cynrychiolydd Cyngor Gemau'r Gymanwlad dros Gymru.
Fe ddywedodd fod Maes Eisteddfod yr Urdd ymysg y mannau gorau i gynnal cymal o'r daith gan fod pobl ifanc mor bwysig i ddyfodol y gemau.
"'Dan ni am i'r genedl ymuno hefo ni a chefnogi tîm Cymru a dathlu pan fyddwn ni'n dychwelyd. Gobeithio y bydd taith y baton yn ein helpu ni i gyrraedd yr uchelgais honno," meddai.
Dywedodd un o drefnwyr yr Eisteddfod Morys Gruffydd: "Mae'n gyfle gwych i ni fel mudiad gefnogi'r tîm Cymreig.
"Ac, wrth gwrs, mae'n brofiad gwych i'n haelodau ni sy'n cario'r baton."
Ras gyfnewid
Ar ôl y seremoni roedd ras gyfnewid o gwmpas y Maes gyda'r rhedwr 400 metr Iwan Thomas yn dechrau'r ras.
Dywedodd Iwan: "Mae'n wych, dwi'n falch o fod yn rhan o hyn ... bydd y gemau yn yr haf yn ffantastig a dwi'n gobeithio bod y ffaith 'mod i yma yn helpu ychwanegu ychydig o gyffro."
A dywedodd un o'r cludwyr Erin Williams, 15 oed o'r Fflint: "Dyw llawer ddim yn cael y cyfle hwn.
"Dwi'n gobeithio mod i'n ysbrydoli rhai i ymddiddori mewn chwaraeon."
Cafodd y cludwyr eu dewis am eu bod yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda'r Urdd ac yn dod o sawl ardal.
Wedi diwrnod cyfan ar Faes yr Eisteddfod bydd y baton yn symud i Sir Gâr a Sir Benfro cyn anelu am Y Fachynlleth a'r gogledd, gan gynnwys Caernarfon, Ynys Môn, Y Rhyl a Rhuthun.
Yn Sir Benfro bydd y baton yn mynd o Balas yr Esgob yn Nhyddewi a drwy dir y gadeirlan, lle bydd yn cael ei fendithio gan Esgob Tyddewi.
Yn Sir Ddinbych bydd y baton yn gorffen cymal Cymreig y daith yn Sir Ddinbych.
Erbyn hynny bydd wedi teithio 731 milltir (1,176 o gilomedrau) o gwmpas Cymru yn ystod yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Mai 2014
- Published
- 24 Mai 2014
- Published
- 23 Mai 2014