Lori ar dân ar brif-ffordd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae lori oedd yn cario reidiau ffair wedi mynd ar dân ar ffordd yng Ngwynedd.
Cafodd dau o griwiau tân eu galw i'r digwyddiad ger Croesfan Griffiths ar yr A487 wrth ymyl Caernarfon am 11.58.
Roedd y fflamau wedi cydio erbyn i'r diffoddwyr gyrraedd.
Mae'r gyrrwr wedi cael triniaeth am sgileffeithiau mwg ac erbyn hyn mae'r tân wedi ei ddiffodd.