Arestio dyn ar amheuaeth o gario cyllell
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ahosi cythrwfl yng nghanol tref Arberth nos Sadwrn.
Cafodd swyddogion arfog eu galw i'r dref tua naw nos Sadwrn wedi adroddiadau bod y dyn 27 oed yn cario cyllell.
Chafodd neb ei anafu.
Mae'r dyn lleol wedi ei gadw yn y ddalfa.