Pigion y Penwythnos: 23-25 Mai
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n fore Llun! Cyfle felly i BBC Cymru Fyw edrych yn ôl ar bigion diddorol y tridau diwethaf.
- Am yr ail benwythnos yn olynnol fe hawliodd peldroediwr o Gymru'r penawdau. Ar ôl Aaron Ramsey o Arsenal yr wythnos diwetha, tro Gareth Bale oedd hi y penwythnos hwn. Sgoriodd o un o'r goliau i Real Madrid wrth iddyn nhw ennill Cynghrair y Pencampwyr. Mae 'na lot o bwysau wedi bod ar yr asgellwr o Gaerdydd ers symud i Sbaen am £85m, ond fel y mae Sid Lowe yn ei flog yn The Guardian yn awgrymu mae o wedi ymdopi yn rhyfeddol
Byd y Bale
- Mi gyrhaeddodd baton Gemau'r Gymanwlad faes awyr Caerdydd ddydd Sadwrn. Dros y dyddiau nesaf mi fydd hi'n mynd ar daith ar hyd a lled Cymru. Mi fedrwch chi ddilyn y daith hyd yma yn yr oriel yma ar wefan WalesOnline.
Rhai o ddeiliaid ifanc y baton ym Mro Morgannwg
- Roedd yna nifer o drafodaethau a siaradwyr difyr yng Ngŵyl y Gelli. Gallwch ddarllen yr uchafbwyntiau ar wefan The Telegraph.
Ffynhonnell y llun, HAY FESTIVAL
- Dechreuodd Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Dywedodd Elin Meredith, gohebydd Cymru Fyw, bod yna ganmoliaeth mawr i sioe ieuenctid Dyma Fi.
"Ro'n i'n buzzian gymaint wedyn do'n i methu cysgu," meddai Lisa Erin o'r Bala, sy'n chwarae rhan bwli.
Dywedodd Steff Chambers o Harlech, sy'n chwarae'r prif gymeriad, Gethin.
"Do'n i ddim yn gwybod bod 'na gymaint o dalent yn yr ardal!" meddai.
Gallwch ddilyn y cystadlu trwy gydol yr wythnos ar wefan Eisteddfod yr Urdd.
Steffan ac Erin a'u ffrind newydd
- Mae o'n wyneb cyfarwydd i'r rhan fwyaf ohonom ni fel cyflwynydd ar S4C ac HTV. Rwan, mae'r degawdau o wasanaeth y mae Arfon Haines Davies wedi ei roi i'r byd darlledu wedi ei gydnabod gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gafodd Pobl Caerdydd gyfle i'w holi ar ôl clywed y bydd yn derbyn y wisg las ym mhrifwyl Sir Gâr.
Ffynhonnell y llun, Pobl Caerdydd