Yr Urdd, y maes, a mi
- Cyhoeddwyd

Bydd miloedd yn heidio i Eisteddfod yr Urdd yn y Bala yr wythnos hon, ond faint ohonoch chi sydd yn cymryd yr holl waith sydd yn mynd i drefnu'r digwyddiad yn ganiataol?
Ydych chi'n poeni am garthffosiaeth a lle bydd yn gorfod mynd?
Ydych chi'n gorfod cynllunio a threfnu cael loriau mawr sy'n llawn nwyddau a stondinau ar gae gwlyb... neu sych ynghanol nunlle?
Dydych chi ddim.. gan bod Simon Hughes, pennaeth criw y maes a'i dîm yn gwneud y gwaith ar eich rhan.
Cafodd BBC Cymru Fyw air gydag e ynghanol ei brysurdeb.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn gyfrifol am faes Eisteddfod yr Urdd?
"Dyma fy ail flwyddyn."
Beth wyt ti a dy dîm wedi bod yn gwneud yn y bythefnos ddiwetha wrth i'r brifwyl agoshau?
"Wythnos gyntaf yn adeiladu, paratoi y ffens a'r tracffwrdd.
"Yr ail wythnos, helpu lle sydd eisio efo adeiladu'r stwythyr. Yna tan i'r Eisteddfod gychwyn, paratoi efo'r marchnatwyr a chodi baneri yr Eisteddfod a'r noddwyr."
Pa ran o'r broses paratoi sydd yn achosi'r pen tost mwyaf i ti?
"Pan mae'r marchnatwyr yn cyraedd. Mae pawb eisiau pob dim ar yr un pryd a pawb yn disgwyl taw nhw yw'r unig rai."
Oes na unrhywbeth yn rhoi pleser aruthrol i ti?
"Gweld y plant yn cael hwyl."
Wyt ti'n medru ymlacio tra fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal?
"Pam mae'r Eisteddfod ymlaen, does dim llawer o siawns i ymlacio. Mae rhywun yn rhywle wastad eisiau rhywbeth."
Pa ran o'r gwaith fyddai rhywun ddim wedi sylweddoli bod yn rhaid ei wneud?
"Mae nifer fawr o gwahanol bethau ond eleni yn arbennig, mae rhaid i'r mesuriadau fod yn berffaith. Does dim llawer o le ar y maes yma yn Bala."
Faint o amser mae'n gymryd i ddad-leoli ar ôl i'r Eisteddfod orffen?
"Llai na pythefnos. Mae'r gwaith yn cychwyn yn syth ar ôl i'r Eistedfod orffen."
Pryd yn y broses wyt ti'n mynd ar wyliau?
"Fyddai'n mynd o'r Eisteddfod yn syth i weithio yn Glastonbury! Ond mi gaf wyliau yn Mis Rhagfyr yn Morocco."