Mantais glir i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, GCCC

Mae gan Forgannwg fantais glir ar ddiwedd ail ddiwrnod y chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.

Daeth y tîm cartref â'u batiad cyntaf i ben ar 350 am 8 wiced gan eu rhoi ar y blaen o 241 ar ôl i'r ymwelwyr golli eu holl wicedi am 109 ar y diwrnod cyntaf.

Yna cafodd Morgannwg y dechrau gorau posib yn ail fatiad Caerlŷr pan gollodd Greg Smith ei wiced gyda'r sgôr ar un.

Jaques Rudolph ddaliodd y cyfle oddi ar fowlio Thomas Helm.

Yn gynharach yn y dydd daeth cyfraniadau da gyda'r bat i Forgannwg gan Rudolph (88), Chris Cooke (58) a Jim Allenby (44).

Erbyn diwedd y chwarae ddydd Mawrth roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 6 am 1 yn eu hail fatiad, gan adael Morgannwg gyda mantais o 235 cyn dechrau'r trydydd diwrnod ddydd Mawrth.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2 - Morgannwg v. Sir Gaerlŷr - Stadiwm Swalec :-

Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) - 109

(ail fatiad) - 6 am 1 (6 pelawd)

Morgannwg (batiad cyntaf) - 350 am 8.