'Risg uwch' i yrwyr ifanc medd Sefydliad moduro yr RAC
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau newydd, gyrwyr rhwng 17 a 19 oed sy'n gyfrifol am bron i 12% - un o bob wyth person - sy'n cael eu hanafu mewn damweiniau ar y ffordd ym Mhrydain.
Yn ôl Sefydliad Moduro'r RAC ardal Heddlu Dyfed Powys sydd â'r ganran uchaf o ddamweiniau o'r fath - sef 18.2%.
Steffan Powell o Newsbeat yn cael ei holi ar raglen y Post Cynta.
Fe gafodd y ffigyrau eu cyhoeddi wythnos yn unig ar ôl i raglen Newsbeat y BBC ddatgelu fod llywodraeth Prydain wedi gohirio cynllun radical i weddnewid y prawf gyrru.
Yn ôl ffigyrau swyddogol mae gyrwyr rhwng 17 a 19 oed yn cynrychioli 1.5% o'r rhai sydd wedi pasio eu prawf gyrru.
Fe wnaeth Sefydliad moduro'r RAC edrych ar ffigyrau 49 o heddluoedd y DU rhwng 2008 a 2012.
Yn ôl yr RAC byddai newid y sustem drwyddedu i fod yn un mwy graddedig yn arbed anafiadau i hyd at 4,500 y flwyddyn.
Byddai system o'r fath yn golygu y byddai'n rhaid i yrwyr newydd barhau ar brawf am 12 mis gyda rheolau yn cyfyngu ar rai o'u hawliau ar y ffordd fawr.
Dywedodd Philip Gomm, llefarydd ar ran y RAC: "Rydym yn parchu hawliau a rhyddid pobl ifanc, rydym am eu hamddiffyn a'u diogelu, ond o bosib mae hynny'n golygu rhai cyfyngiadau yn ar ôl iddynt basio eu prawf gyrru - dyma'r cyfnod mwyaf peryglus i unrhyw yrrwr."
Yn ôl yr RAC gyrwyr rhwng 17 a 19 oed sy'n gyfrifol am bron i un o bob pum person - sy'n cael eu hanafu mewn damweiniau ar y ffordd yn ardal Dyfed Powys.
Gwent oedd yn ail yn y rhestr (17%), gyda Gogledd Cymru a Cumbria yn drydydd (15.8%).
Llundain oedd a'r canran isaf sef 5.6%