Gwrthdrawiad: enwi dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Howells

Mae'r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 ger Merthyr Tudful wedi ei enwi fel Jonathan Howells, 48, o ardal Cwmaman.

Cafodd y gwasanaethu brys eu galw i'r safle ger Cefn Coed am 4.57am ar Fai 27.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod car wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda dyn oedd yn cerdded.

Bu'r ffordd ar gau am rai oriau tra bod arbenigwyr fforensig yn archwilio'r safle.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio, a hoffan nhw glywed gan unrhyw un welodd y digwyddiad.

Wrth roi teyrnged, dywedodd ei deulu ei fod yn "frawd a mab ffyddlon a ffantastig".

"Yn un o bedwar o blant, roedd Jonathan yn byw yn byw gyda'i frawd a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod."