Cyhuddo dau fachgen o ddechrau tân
- Published
Mae dau fachgen, 12 a 14 oed, wedi cael eu cyhuddo o gynnau tân ac o achosi difrod troseddol yn dilyn tân mewn ysgol gynradd ym Mangor.
Fe gafodd Ysgol Ein Harglwyddes Difrycheulyd ei difrodi ar 28 Chwefror.
Bu'n rhaid i griwiau o Fangor a Phorthaethwy dorri trwy'r to cyn gallu rheoli'r fflamau.
Cafodd y ddau fachgen eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddan nhw'n ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Caernarfon ar 20 Mehefin.
Mae'r Ditectif Cwnstabl Gerallt Davies o Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i unrhyw un a welodd y tân i gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Mawrth 2014
- Published
- 1 Mawrth 2014