Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi'r gorau i dâl bonws
- Published
Mae rheolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi rhoi'r gorau i gynllun fyddai'n rhoi bonws o 10% i ddau aelod o'r tîm rheoli am gymryd cyfrifoldebau ychwanegol.
Roedd staff wedi bygwth cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y rheolwyr oherwydd y cynllun.
Nawr mae'r staff wedi derbyn e-bost gan y prif weithredwr yn dweud bod yn rhaid i'r Llyfrgell ganolbwyntio ar gyflogau a lefel staffio'r sefydliad cyfan.
Mae undebau wedi croesawu'r penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran undeb y PCS nad oedd rhai aelodau'r staff yn ennill 'cyflog byw'.
Ar hyn o bryd mae'r Llyfrgell yn paratoi cyfnod ymgynghorol ar ailstrwythura.
Incwm
Fe fydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros gyfnod o chwe wythnos.
Mewn e-bost at y staff ddydd Gwener dywedodd y prif weithredwr Aled Gruffydd Jones fod angen i'r sefydliad ganolbwyntio ar lefelau tâl a staffio'r sefydliad cyfan.
Dywed yr e-bost fod penderfyniad wedi ei wneud i beidio â pharhau gyda'r bwriad i roi tâl bonws i ddau aelod o'r tîm rheoli am gymryd cyfrifoldebau ychwanegol.
Ym mis Rhagfyr y llynedd fe wnaeth Mr Jones wneud apêl am arian gan y cyhoedd er mwyn llesteirio effaith toriadau yn eu cyllideb o du llywodraeth Cymru.
Dywedodd fod y llyfrgell yn wynebu lleihad o £1.2 miliwn yn ei incwm dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae disgwyl i'r llyfrgell a'r undebau gynnal cyfres o gyfarfodydd ym Mehefin.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Mai 2014
- Published
- 25 Chwefror 2013
- Published
- 24 Medi 2012
- Published
- 29 Ebrill 2013
- Published
- 16 Mai 2013