Cwmni'n ehangu gan greu 100 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Sir y Fflint sy'n cynhyrchu rhybedion ar gyfer ceir yn ehangu gan gyflogi dros 100 o weithwyr newydd.
Bwriad cwmni Henrob yw agor ffatri newydd yn ddiweddarach eleni y drws nesaf i'w ffatri bresennol ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Mae'r cwmni wedi derbyn pecyn ariannol werth £5.2 miliwn er mwyn prynu'r adeilad - sy'n cael ei ddefnyddio fel warws ar hyn o bryd - a'i addasu i fod yn ffatri gynhyrchu.
Mae'r cwmni eisoes wedi dechrau recriwtio gweithwyr ar gyfer yr ehangu.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn y Fflint 19 mlynedd yn ôl, ac mae bellach yn cyflogi 200 ar eu safle yno a 300 arall mewn ffatrïoedd yn yr Unol Daleithiau, yr Almaen a China.
Ymhlith cwsmeriaid y cwmni mae gwneuthurwyr ceir Daimler, Merecedes a Jaguar Landrover, ac maen nhw'n cynhyrchu un biliwn rhybed bob blwyddyn.
Ar ôl ehangu mae disgwyl i'r nifer yna gynyddu i dri biliwn.
Dywedodd cyfarwyddwr datblygu busnes y cwmni, Phil Halsall: "Gyda mwy o alw gan wneuthurwyr ceir mae ein busnes wedi tyfu 100% dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at dwf pellach dros y flwyddyn i ddod."