Esgob yn bendithio Baton y Frenhines
- Cyhoeddwyd

Mae Esgob Tyddewi wedi bendithio Baton y Frenhines yn ystod pumed diwrnod ei daith yng Nghymru ddydd Mercher.
Dechreuodd y daith am 08:00 ym Mhalas yr Esgob cyn cael ei gludo drwy'r gadeirlan a'i fendithio gan yr esgob, y Gwir Barchedig Wyn Evans.
Perfformiodd côr y Gadeirlan ar gyfer y 500 o gefnogwyr ddaeth allan i weld y baton.
Bydd y baton yn teithio'n bellach nag unrhyw ddiwrnod arall ddydd Mercher, gan orffen ei daith ym Machynlleth.
Ar y ffordd aeth y baton i Oriel y Parc - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - ac yna cafodd sesiynau chwaraeon eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Tyddewi.
Ymhlith y rhai fuodd yn cario'r baton oedd Roy Stephens a Barry Webb. Mae'r ddau yn eu saithdegau a nhw gariodd y baton baton gwreiddiol cyn Gemau'r Ymerodraeth - rhagflaenydd Gemau'r Gymanwlad - yng Nghaerdydd yn 1958.
Symudodd yr orymdaith ymlaen i Aberteifi, lle daeth torf fawr allan i gefnogi.
Un oedd yn gwylio yn Aberteifi oedd Emma Rogers, fydd yn chwarae rhan ei hun yn y gemau yn Glasgow.
Roedd Emma yn un o'r 56,000 oedd wedi gwneud cais i wirfoddoli yn y gemau, ac yn ddigon ffodus i fod yn un o'r 4,000 gafodd eu dewis.
"Cefais fy ysbrydoli ar ôl gwylio'r Gemau Olympaidd a gweld y gwirfoddolwyr yna," meddai.
"Mae'n gyffrous iawn cael cymryd rhan a gallai ddim aros i gyrraedd Glasgow - mae'n dod yn fwy real bob dydd."
Prynhawn Mercher
Brynhawn Mercher, bydd y baton yn mynd drwy Aberaeron ac Aberystwyth cyn cyrraedd Machynlleth.
Yn y pen draw bydd y baton yn cyrraedd Glasgow lle bydd Gemau'r Gymanwlad yn dechrau ar 23 Gorffennaf.
Yn ystod ei dridiau cyntaf yng Nghymru, mae'r baton wedi bod drwy gymoedd y de-ddwyrain, Llandrindod a Maes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun.
Daeth y baton i Gymru fore Sadwrn, gan lanio ym Maes Awyr Caerdydd cyn teithio drwy Abertyleri, Glyn Ebwy, Tredegar a Merthyr Tudful.
Erbyn diwedd yr wythnos bydd y baton wedi teithio 731 o filltiroedd yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- 27 Mai 2014
- 26 Mai 2014
- 25 Mai 2014
- 24 Mai 2014
- 23 Mai 2014
- 23 Mai 2014