Caerdydd yn arwyddo Macheda

  • Cyhoeddwyd
Macheda

Mae Caerdydd wedi arwyddo Federico Macheda, wedi iddo gael ei ryddhau gan Manchester United.

Roedd yr Eidalwr 22 oed ar gael am ddim wedi i'w gytundeb ym Manceinion ddod i ben.

Fe dreuliodd y tymor diwethaf gyda Birmingham ar fenthyg, lle y sgoriodd 10 o goliau mewn 18 ymddangosiad.

Dywedodd Macheda: "Mae hwn yn gyfle anferth i mi ac rwy'n diolch i Ole Gunnar Solskjær am fod yma.

"Rydw i'n edrych ymlaen at ddechrau'r tymor newydd. Mae hwn yn bennod newydd yn fy ngyrfa ac alla i ddim disgwyl i gael dechrau."

Daeth i'r amlwg ym Manceinion wedi iddo sgorio gôl bwysig yn ei gêm gyntaf yn erbyn Aston Villa, ond ni wnaeth lwyddo i sicrhau ei le yn y tîm cyntaf wedi hynny.