Plismona Nato i 'dorri tir newydd' medd Uwch Gwnstabl

  • Cyhoeddwyd
Celtic Manor
Disgrifiad o’r llun,
Mi fydd Celtic Manor yn cynnal y gynhadledd mewn 100 o ddiwrnodau

Mae'r dyn sy'n gyfrifol am blismona cynhadledd Nato yng Nghasnewydd ym mis Medi yn dweud y bydd yr ymdrech ddiogelwch yn "torri tir newydd".

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd yr Uwch Gwnstabl Cynorthwyol, Chris Armitt nad yw cael cynifer o gynrychiolwyr adnabyddus, a'r lefel o ddiogelwch y bydd ei angen, wedi ei weld ym Mhrydain o'r blaen - ac mae hynny'n cynnwys y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Mae cynlluniau ar gyfer protest fawr drwy Gasnewydd ddyddiau'n unig cyn i'r ddinas gynnal cyfarfod o aelodau Nato.

Y disgwyl yw y bydd rhyw 4,000 o bobl yn mynegi eu hanfodlonrwydd mewn rhyw fath o ddigwyddiad.

'Dysgu gwersi'

Dywedodd yr Uwch Gwnstabl Cynorthwyol bod ei dîm wedi dysgu gwersi o gynadleddau blaenorol, gan gynnwys cynhadledd Chicago, lle roedd miloedd o brotestwyr yn ei wrthwynebu.

Er hynny, dywedodd nad oedd yn disgwyl yr un faint o brotestwyr yng Nghasnewydd.

Ychwanegodd y byddai'r digwyddiad yn cael effaith ar ffordd yr M4 ar ddechrau'r gynhadledd, ond y gobaith yw na fydd y draffordd ar gau drwy ei gydol.

Mae'r Rwydwaith Gweithredu Anarchaidd eisoes wedi bod yn cynnal digwyddiadau bach yn y ddinas gan gynnwys seminarau a thrafodaethau ar bynciau fel diarfogi niwclear, hawliau gweithwyr a chymorth cyntaf sylfaenol.

Dywedodd un fydd yn protestio: "Mi fydd protest drwy Gasnewydd wedi ei harwain gan undebau llafur fydd, mae'n debyg, yn eithaf anferth, gyda phobl yn mynychu o ledled Cymru a gweddill y wlad...

"Rwy'n credu y bydd llawer yn ei erbyn [y gynhadledd] a gobeithio bydd pobl yn dangos hynny.

"Rwy'n meddwl bydd pobl yn debygol o ddod o wledydd eraill, nid yn unig o Loegr ond o Ffrainc a'r Almaen. Mi fyddwn i'n disgwyl i'r bobl sy'n weithredol iawn dros heddwch fod yna hefyd."

Mae disgwyl i arweinwyr nifer o wledydd fod yn bresennol yn Celtic Manor ar Medi 4 a 5.