Prifysgolion i geisio lleihau gor-yfed ymysg myfyrwyr
- Cyhoeddwyd

Mi fydd Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn ymgyrch newydd sy'n ceisio lleihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed gan fyfyrwyr.
Gobaith y fenter, sy'n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) a'r Swyddfa Gartref yw creu diwylliant newydd drwy ddad-normaleiddio gor-yfed.
Mi fydd pob un o'r saith prifysgol sydd wedi cytuno i fod yn rhan o'r cynllun peilot yn derbyn dros £10,000 yr un, ar gyfartaledd.
Y syniad yw eu bod yn gweithio tuag at dderbyn tystysgrif neu achrediad drwy gael eu sgorio'n erbyn rhestr o feini prawf.
Mi fydd y rhain wedi ei selio ar ymdrechion i leihau faint o alcohol sy'n cael ei werthu a'i yfed, atal digwyddiadau cymdeithasol sy'n ymwneud ag yfed a gwneud yn siŵr bod bariau rhad yn gwerthu diodydd di-alcoholig rhad hefyd.
'Arwain at anhrefn'
Bydd disgwyl i undebau myfyrwyr gynnig o leiaf un digwyddiad "safonol, poblogaidd, di-alcohol" bob chwe mis - yn enwedig yn wythnos y glas.
Yn ogystal mi fydd disgwyl i brifysgolion ddatblygu polisïau a cheisio cyfathrebu'r neges bod yfed gormod yn niweidiol i iechyd, gan weithio gyda staff prifysgol a llefydd sy'n gwerthu alcohol.
Dywedodd Gweinidog Atal Troseddau Llywodraeth y DU, Norman Baker: "Mae rhai myfyrwyr yn darganfod ei hunain yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau llawn alcohol sydd mewn rhai achosion yn arwain at anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mi ddylai cael achrediad fod yn fathodyn o anrhydedd ar gyfer prifysgolion ac yn ffactor arall sy'n helpu i hyrwyddo eu dysgu ac ymchwil, sydd o safon rhyngwladol, i ddarpar fyfyrwyr domestig a thramor."
Straeon perthnasol
- 23 Ebrill 2013
- 13 Mawrth 2013