Dynes wedi marw yn dilyn tân car Tredegar
- Published
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dynes wedi marw yn dilyn tân car yn Nhredegar.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Treforys mewn Ambiwlans Awyr am tua 13:45 ddydd Mawrth.
Ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Gwent bod y ddynes wedi marw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub o Dredegar a Glyn Ebwy eu galw i'r digwyddiad ar ffordd Dukestown.
Dywedon nhw nad oedden nhw'n credu i unrhyw un arall fod yn rhan o'r digwyddiad.
Mae'r Heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.