Holi Betsan Powys am Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Betsan, Garry a Garry
Disgrifiad o’r llun,
Betsan yn cael ei holi gan Garry a... Garry

Bu Garry Owen a'r gwrandawyr yn holi golygydd Radio Cymru ar Faes Eisteddfod yr Urdd brynhawn Mercher.

Dyma rai o'i atebion i'r cwestiynau hynny, mae posib gwrando nol ar y raglen gyfan ar wefan Radio Cymru.

Pa mor bwysig yw cywirdeb iaith?

Mi fydden i'n dweud bod rhannau gwahanol o'r gwasanaeth yn cynnig gwahanol bethau...

Mae 'na nifer o bobl wedi bod yn cyfeirio at Tommo yn y prynhawn, mae'n rhaid i mi ddweud fod pobl wedi dweud wrthaf i, hyd yn oed os nad oedden nhw'n ffans yn y dechrau - oherwydd yr arddull wahanol iawn 'ma a'r math o raglen ydi hi - yn dechrau c'nesu a bod nhw ddim yn meindio...

Fydden i wrth fy modd pe bai Tommo'n cael pob treiglad yn iawn ond mae'n bwysicach i fi bod y rheiny sy'n mwynhau gwrando ar Tommo - ac mae 'na nifer fawr iawn - yn cysylltu bob dydd...

Mae rhai yn poeni bod gormod o Saesneg ar y rhaglen - beth yw eich ymateb i hyn?

Mae mwy o Gymraeg ar Radio Cymru nag yn unlle arall. Fe wnaethon ni addewid; mwy o gerddoriaeth Gymraeg gyfredol yn yr amserlen newydd, ac rydym wedi dal at ein gair. Mi wnaethon ni'n penderfyniad i gael chwe chan Saesneg yn rhaglen Tommo am bod amryw o'r gynulleidfa llawer llai cyfarwydd â cherddoriaeth gyfredol Gymraeg na fasech chi'n ddisgwyl...

Falle bod o'n siom i rai glywed cyn lleied o bobl ifanc sy'n fodlon dod i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

A oes cynlluniau i gael mwy o Saesneg yn y dyfodol?

Na, dim o gwbl.

Ydych chi'n meddwl bod safon Radio Cymru ddigon da?

Cwestiwn penagored iawn iawn - beth yw safon? Mae'n ddigon teg wrth gwrs dymunio bod pobl yn gallu disgwyl troi at Radio Cymru a chael safonau cynhyrchu uchaf posib sdim ots be yw'r rhaglen.

A ddylech chi fod yn cydweithio mwy gyda S4C?

Ydw ond mae angen bod yn ofalus...

Mae pobl yn camddeall a'n meddwl bod gormod o gydweithio a bod naill yn rheoli'r llall...

Ond os ffordd... rwy'n awyddus ac yn barod i wneud.

Beth ydych chi'n wneud am y ffaith bod signal yr orsaf wedi dirywio?

Pam rydw i'n gyrru rownd fan hyn ac yn aml iawn yn gweld bod safon y signal yn dirywio - iesgob, dyna broblem.

Mae hi wirioneddol yn gystadleuaeth, os yw rhywun wedi troi at orsaf yn y car i'w denu nhw nôl.

'Dw i wedi sylwi, dw i'n gyrru reit aml lan i Fangor a Chaerfyrddin ac erbyn hyn rwy'n colli'r signal oedd yn arfer bod yn ddigon clir.

Mi faswn i'n falch petai pobl eraill yn cysylltu gyda ni ynglyn a hyn achos wedyn alla i fynd at yr adran dechnegol a dweud: 'drychwch, mae problem.'

Mae rhai yn dweud nad oes digon o farddoniaeth a cherddi yn yr arlwy newydd.

Daliwch chi - fi'n credu bod beirdd wedi gwneud yn eitha da gyda'r newidiadau! Ni wedi penodi bardd preswyl bob mis ac mi gafodd sylw mawr ei roi i'n rhaglenni ar ein hoff feirdd wrth i ni ddewis ein hoff fardd, Gwyn Thomas.

Sylwadau'r gwrandawyr

Da bo rhywun fel Tommo ar gael. Breightio'r orsaf i fyny. Edrych mlaen i wrando bob pnawn. Dwi'n gwybod nad yw ei Gymraeg ddim yn sbesial ond dwi'n joio.

Rhian Davies, o'r gorllewin.

Radio 4 mewn Cymraeg coeth - nid pawb fydde'n cytuno - ond dyna fydde ni'n licio - rhaglenni fel Melvyn Bragg In Our Time - ond yn dallt nad pawb sydd yn rhannu yr un chwaeth a mi.

Arthur Owen

Diolch i Betsan. Mae gen i ddiffyg golwg a dwi eisiau diolch i Betsan Powys. Dwi'n enjoio y Tommo bach 'na er yn 80 oed. Diolch yn fawr a diolch am Radio Cymru o'r Eisteddfod. 'Da chi ddim yn sylweddoli faint mae radio yn ei olygu i bobl a nam golwg.

Buddug Jones o Sir Fôn

Cytuno gyda'r Eisteddfodwraig ddywedodd na ddylai fod caneuon Saesneg ar Radio Cymru. Mae'n dân ar fy nghroen a 'dw i fel arfer yn diffodd - felly dyna i chi golli cynulleidfa.

Os oes rhaid cael caneuon Saesneg, mae'n bosib bod peth cyfiawnhad dros ambell gân o'r siartiau ar C2 neu glasuron poblogaidd iawn ar raglen Tommo, ond dydy chwarae'r caneuon Saesneg diflas sydd i'w clywed ar C2 yn aml iawn yn gwneud dim synnwyr o ran denu cynulleidfa prif ffrwd.

Y peth gwaethaf oll yw clywed caneuon Saesneg gan fandiau Cymraeg ar y radio. Drwy wneud hyn mae Radio Cymru yn annog bandiau ifanc Cymraeg i ganu yn Saesneg, ac felly yn cael effaith negyddol ar ddiwylliant canu Cymraeg. Mae'n rhaid i hyn stopio.

Osian Rhys

Cytuno efo'r siaradwr ddywedodd nad yw bellach yn gwrando ar Radio Cymru. Dwi ddim yn gwrando ar y dwli 'na gan y dyn o'r gorllewin. Mae safon yr orsaf wedi gwaethygu. Colli gwrandawyr fydd hi.

Di-enw o Gwm Tawe

Fel un sy'n gwrando a chyfrannu ar Fy Rhaglen I wythnos dwytha - wyddwn i ddim bod na gymaint o dalent. Dydi pobl ddim yn gwrando ar y rhaglenni gyda'r nos. Geraint Lloyd yn wych a ddim yn cael digon o sylw.

Rhaglen drwy dydd ydi Radio Cymru dim jyst radio yn y p'nawn

Huw Edwards o Gaernarfon

Mae'n amhosibl plesio pawb, mae'n hen bryd i bobl dderbyn 'ny!

'Dwi ddim yn ffan o emynau ar y radio a siarad am blanhigion ond 'dwi ddim yn disgwyl i mamgu fwynhau Tommo!

Mae Tommo fel chwa o awyr iach er gwaetha' ei gam dreiglo ac mae recordiau Saesneg cyfoes yn codi tempo hen ffasiwn yr orsaf.

Ma' job da yn cael ei wneud o drio apelio at bawb. Hoff iawn o'r syniad o storiau fel Radio 4!

Nia Cray