Medal Ddrama i Heledd Gwyn Lewis yn Eisteddfod y Bala
- Cyhoeddwyd

Heledd Gwyn Lewis, yn wreiddiol o Gaernarfon ond yn fyfyrwraig yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, sydd wedi ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Y Bala 2014.
Dan y ffugenw 'Peredur', teitl y ddrama fuddugol oedd 'Gwyddbwyll."
Y gamp oedd ysgrifennu drama lwyfan un act, rhwng 40-60 munud o hyd, a'r testun yn agored.
Rhoddwyd y Fedal eleni gan Glwb Rotari Dolgellau, a'r beirniaid oedd Arwel Gruffydd a Huw Foulkes.
'Dewin geiriau'
Wrth draddodi'r feirniadaeth, cyfeiriodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, at y ffaith fod rhai o'r cystadleuwyr eleni yn tueddu i "ysgrifennu gormod".
Awgrymodd ei bod yn llawer mwy o grefft "bod yn gynnil, dadlenol, mentrus ac onest" wrth lunio drama.
Wrth bwyso a mesur y gwaith buddugol, disgrifiodd Mr Gruffydd Heledd Gwyn Lewis fel "dewin geiriau sy'n cyffroi'r emosiynau", a "oedd â'r Gymraeg yn arf yn ei meddiant".
"Dyma waith mwya' cywrain y gystadleuaeth," ychwanegodd.
Cyfres o fonologau yw'r gwaith, sy'n seiliedig ar fyfyrdodau gwraig wedi i'w gŵr grogi'i hun.
Yn ôl y beirniaid, roeddan nhw wedi pendroni ai darn o lenyddiaeth neu ddrama oedd 'Gwyddbwyll', ond fe ddaethon nhw i'r casgliad y byddai'r ddrama yn gweithio ar lwyfan.
'Braint'
Wedi'r seremoni, dywedodd Heledd Gwyn Lewis, aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd, ei bod yn "fraint cael cyfle i rannu gwaith personol gyda phobl eraill, a chael clod am y gwaith hwnnw."
Ychwanegodd: "Mae'r ddrama yn gyfres o fonologau, yn cyfateb i'r gwahanol ddarnau o wyddbwyll - y du a'r gwyn.
"Mae hefyd yn ymwneud â thwyll o fewn perthynas, a'r dirywiad o fewn perthynas.
"Doeddwn i ddim eisiau dweud gormod - gadael i'r gwylwyr ddehongli pethau yn eu ffordd eu hunain.
"Mae gwyddbwyll yn thema oesol, ac yn amlwg iawn o fewn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol."
Mae Heledd ar hyn o bryd yn astudio MA mewn Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth yr Oesodd Canol.
Ond beth am y dyfodol?
"Dwi eisiau parhau i ysgrifennu'n greadigol - mae hyn yn bendant wedi rhoi'r hyder i mi rannu 'ngwaith hefo pobl eraill."
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Elgan Rhys Jones, o Aelwyd CF1, Caerdydd, dan y ffugenw 'Dewin Dwl'. Gareth Evans Jones, o Ynys Môn, dan y ffugenw 'Delw', oedd yn y trydydd safle.
Cyhoeddwyd eisoes y byddai cyfle i'r enillydd eleni gael ei fentora gan y Theatr Genedlaethol a'r BBC.
Ategodd Arwel Gruffydd yn ystod y seremoni y byddai'r ail yn y gystadleuaeth hefyd yn cael ei hyfforddi dan yr un cynllun.
Straeon perthnasol
- 27 Mai 2014