Lluniau Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher 2014/ Monday's pictures at the Urdd Eisteddfod 2014

  • Cyhoeddwyd
Croeso
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r faner yma sy'n estyn croeso yn un o'r pethau cyntaf mae ymwelwyr â'r maes yn ei weld (The word 'croeso', which means 'welcome' is one of the first things visitors to the maes see).
Caio
Disgrifiad o’r llun,
Caio o ardal Ffestiniog yn mwynhau bownsio bynji ar y maes (Caio from Ffestiniog enjoys bungee bouncing at the Eisteddfod).
Disgrifiad o’r llun,
Roedd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 yn nofio ar hyd Llyn Tegid heddiw i godi arian (Chair of Flintshire's 2016 Urdd Eisteddfod committee, Jeremy Griffiths, planned a fundraising swim along 6km of Bala Lake today).
Disgrifiad o’r llun,
Y Ffug oedd yn diddanu'r dorf dros ginio ar y llwyfan awyr agored (Y Ffug entertained Eisteddfod-goers over lunch on the open air stage).
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Y Ffug o Sir Benfro yn un o'r bandiau sy'n perfformio yn slot dyddiol cylchgrawn Y Selar (The Pembrokeshire band, Y Ffug, are one of the bands performing in the daily slot organised by Y Selar magazine).
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Llywydd y dydd, y gyrrwr rali Gwyndaf Evans, fod adrodd yn Eisteddfod yr Urdd wedi ei helpu i ddod dros ei swildod wrth deithio'r byd yn ralïo (Rally driver Gwyndaf Evans, today's President, recounted how reciting at the Urdd Eisteddfod helped him overcome his shyness as he competed in rallies all over the world.
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Poppy ac Alfie gwrdd â'r dylluan oedd yn chwarae Blodeuwedd yn nrama'r Theatr Genedlaethol (Poppy and Alfie met an owl that toured with the Theatr Genedlaethol's production of Blodeuwedd last year).
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alisha ar ben ei digon wedi ennill y gystadleuaeth Unawd Telyn i Flynyddoedd 7, 8 a 9 (Alisha was delighted after winning the Harp Solo for Years 7, 8 and 9)
Disgrifiad o’r llun,
Enillydd y fedal ddrama eleni yw Heledd Gwyn Lewis o Gaernarfon/ The Drama Medal winner this year is Heledd Gwyn Lewis from Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ddau ymwelydd ifanc yma'n barod am ddiwrnod ar y maes yn gynnar bore 'ma (Two young visitors were ready for a day on the maes this morning).