Edrych 'nôl ar ddydd Mercher yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Diwrnod digon llwyd oedd hi yn y Bala ar drydydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014, efallai yn adlewyrchu'r teimladau wrth i nifer gofio am un o hoelion wyth yr ardal, Derec Williams, a fu farw yn 64 mlwydd oed.
Roedd nifer o deyrngedau iddo ar y Maes, gan gynnwys geiriau Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, amdano:
"Roedd ei gyfraniad i ieuenctid yr ardal hon, ac ym myd theatr cerdd, yn aruthrol. A phan oedd angen cyngor arnon ni, fel Eisteddfod, yn y maes hwn, neu unrhyw beth i wneud hefo sioeau cerdd, Derec oedd yn cael yr alwad ffôn gynta' pob tro."
Y Fedal Ddrama
Daeth 14,882 o bobl drwy'r gatiau ddydd Mercher a Phrif seremoni'r dydd oedd y Fedal Ddrama. Heledd Gwyn Lewis, merch o Gaernarfon, sy'n fyfyrwraig MA yng Nghaerdydd, ddaeth i'r brig, gyda'r beirniaid, Arwel Gruffydd a Huw Foulkes, yn ei disgrifio fel "dewin geiriau".
Roedd ei gwaith, 'Gwyddbwyll', yn gyfres o fonologau wedi'u seilio ar brofiad gweddw dyn oedd wedi crogi'i hun.
Bydd Heledd, a'r cystadleuydd a ddaeth yn ail - Elgan Rhys Jones, o Aelwyd CF1 yng Nghaerdydd - nawr yn cael hyfforddiant gan Theatr Genedlaethol Cymru a'r BBC.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill yn y Pafiliwn, roedd y gystadleuaeth Cân Actol i Flynyddoedd 6 ac iau, a nos Fercher, tro'r dawnswyr disgo oedd hi.
Am y tro cynta' erioed, doedd yna ddim rhagbrofion ac roedd pob cystadleuydd yn y categorïau hip hop a dawnsio stryd yn cael perfformio ar y llwyfan.
'Rhyfel a chymodi'
Hefyd yn ystod y prynhawn, cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru ei chyflwyno yn y Pafiliwn.
24 o bobl ifanc Meirionnydd oedd yn perfformio'r neges eleni, oedd ar y thema rhyfel a chymodi.
Criw o Ysgolion Uwchradd y Berwyn, Ardudwy, Tywyn, Moelwyn a'r Gader fu'n cydweithio gyda Chymdeithas y Cymod ar y neges. Dan arweiniad y Prifardd Mererid Hopwood, cafodd cerdd ei chreu am y tro cynta' erioed i gydfynd â'r neges.
Llywydd y Dydd oedd y gyrrwr rali Gwyndaf Evans, o Ddinas Mawddwy. Er iddo gydnabod nad oedd yn "fawr o Eisteddfodwr pan yn ifanc", ychwanegodd iddo "gael ychydig o lwyddiant wrth adrodd, er yn hogyn swil".
"Rwy'n sicr fod hynny wedi fy helpu i gael gwared ar ychydig o'r swildod hwnnw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2014
- Cyhoeddwyd28 Mai 2014