Naturiaethwr: Angen i barciau gyfathrebu'n Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae naturiaethwr amlwg wedi beio diffyg siaradwyr Cymraeg mewn rhai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol am greu perthynas "anodd" gyda chymunedau lleol.
Mae awdurdodau parciau cenedlaethol yn gyfrifol am ystod eang o bynciau, gan gynnwys yr amgylchedd, safleoedd hanesyddol a chynllunio, sy'n gallu arwain at ddadlau gyda ffermwyr a phobl leol.
Dywedodd Twm Elias, sydd wedi gweithio i Barc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan-y-Bwlch, Maentwrog ers 35 mlynedd, bod "hanes o ddrwg-deimlad" yn enwedig yn ardal Parc Bannau Brycheiniog.
Ond dywedodd Mr Elias bod llwyddiant Eryri i gyfathrebu gyda phobl yn Gymraeg, yn ogystal â gwell dealltwriaeth o'r ardal, wedi creu perthynas well.
'Siarad yr un iaith'
Roedd Twm Elias yn sgwrsio ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru gan y bydd yn ymddeol ar ddiwedd yr wythnos.
Dywedodd Mr Elias na fyddai'n ystyried unrhyw Barc Cenedlaethol fel awdurdod poblogaidd oherwydd y system gynllunio, ond bod rhai llawer llai poblogaidd nac eraill.
"Mae 'na hanes o ddrwg deimlad a diffyg dealltwriaeth yn enwedig yn ardal Parc Brycheiniog...
"Mae'r berthynas yn fanno wedi bod yn un anodd ers degawdau, a dwi'n meddwl bod 'na fwy o wrthwynebiad yna, sydd wedyn wedi ymledu i'r sector amaethyddol."
Ychwanegodd bod sawl rheswm y tu ôl i hynny, gan gynnwys "natur gyfansoddiadol" y parc, o'i gymharu â Pharc Eryri.
"Yn Eryri roedden ni'n lwcus iawn i fod o dan yr hen Gyngor Gwynedd, lle roedd gen ti bolisi iaith gadarn, lle roedd unrhyw un oedd yn gweithio hefo'r cyhoedd yn uniongyrchol yn gorfod siarad Cymraeg fel cymhwyster hanfodol, sy'n gwneud synnwyr llwyr mewn ardal sy'n fwyafrif Gymraeg.
'O ddifrif am y Gymraeg'
"Mae hynny'n golygu bod yn Eryri mae gen ti tua 93% neu 94% o'r staff yn Gymry Cymraeg - sy'n golygu bod nhw'n siarad yr un iaith yn llythrennol, yn ogystal ag yn fetafforaidd, a'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu.
"Mewn rhai o'r parciau eraill dydy hynny ddim yn digwydd, i lawr yn ardal Brycheiniog, wel dwi'm yn siŵr be 'di'r canran sy'n dod o Gymru heb son am fedru siarad Cymraeg, ac mae hynny wedyn yn rhoi rhyw berthynas dra gwahanol."
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn cymryd eu cyfrifoldeb i'r gymuned Gymraeg o ddifrif.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Nododd Cyfrifiad 2011 mai 10.3% o boblogaeth y Parc yn ei gyfanrwydd sy'n siarad Cymraeg. Y cyfartaledd i Gymru yw 19%.
"Mae lefel y gallu i siarad Cymraeg ymhlith staff yr Awdurdod uwchben y cyfartaledd lleol ar gyfer y Parc Cenedlaethol yn ogystal â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 22% o'r staff yn siarad Cymraeg yn rhugl neu ar lefel ganolradd ac 11% arall yn dysgu Cymraeg."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn "targedu'r cymunedau hynny" lle mae mwy o siaradwyr Cymraeg "drwy sicrhau bod y Wardeiniaid a'r staff Addysg ar gyfer yr ardaloedd hyn yn siaradwyr Cymraeg".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2014
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014