Ychwanegu comisiwn i gyflog gwyliau gweithwyr
- Cyhoeddwyd

Mi allai pobl sydd yn gweithio mewn canolfanau galwadau golli eu gwaith yn dilyn dyfarniad gan Lys Ewrop. Dyna mae'r corff Welsh Contact Centre Forum yn ddweud.
Yn dilyn y dyfarniad mi fydd yn rhaid ychwanegu'r comisiwn mae staff yn cael pan maen nhw yn gwerthu rhywbeth at eu cyflog gwyliau.
Mi fydd y penderfyniad yn effeithio cyflogwyr ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
Mae undebau llafur wedi croesawu'r newyddion gan ddweud y byddai peidio cynnwys y comisiwn yn golygu y byddai pobl yn gyndyn o gymryd gwyliau.
Ond mae cyfreithwyr yn dweud y gallai hyn olygu y bydd gweithwyr yn gofyn am arian sydd yn dyddio nôl sawl blwyddyn.
Swyddi yn fantol?
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod 30,000 o bobl yn gweithio i ganolfanau galwadau yng Nghymru. 12,000 oedd y ffigwr yn 1999.
Nid dim ond canolfanau galwadau fydd yn cael eu heffeithio ond llefydd gwerthu ceir, rhai gwerthwyr tai a phobl sydd yn gwerthu cynnyrch o ddrws i ddrws.
Yn ôl Sandra Busby o'r Welsh Contact Centre Forum mi allai'r dyfarniad olygu na fydd y diwydiant yn tyfu fel yr oedd pobl yn darogan.
Ond dywedodd mai'r sefyllfa waethaf fyddai pe byddai pobl yn gorfod colli gwaith a bod cwmniau yn gorfod cau.
Bydd tribiwnlys ym Mhrydain yn penderfynu sut y bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu.