Amgueddfa dros dro i glwb pêl droed Wrecsam

Amgueddfa dros dro Clwb Pêl Droed Wrecsam
Image caption Amgueddfa dros dro sydd wedi ei agor yn nghanol Wrecsam

Mae amgueddfa dros dro sydd yn dathlu hanes Clwb Pêl Droed Wrecsam ar ei ben-blwydd yn 150, wedi agor mewn siop wag yn y dref.

Sefydlwyd Clwb Pêl Droed Wrecsam yn 1864 felly dyma'r hynaf yng Nghymru a'r trydydd hynaf yn y byd.

Y Cae Ras yw'r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd sydd ddal mewn defnydd.

Roedd y cyn-chwaraewr Mickey Thomas yn westai arbennig wrth i'r amgueddfa agor. Chwaraeodd Mr Thomas ran allweddol yng ngêm fuddugol Wrecsam yn erbyn Arsenal yn 1992.

Mae'r amgueddfa yn cynnwys ffilm o Gymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon yn 1906 a cafodd ei wneud gan gwmni Mitchell a Kenyon o Sir Gaerhirfryn.

Image caption Mae ffilm sydd yn dangos gêm pêl droed yn 1906 i weld yn yr amgueddfa

Dyma, yn ôl y son, oedd y gêm bêl droed rhyngwladol gyntaf i gael ei chofnodi ar ffilm.

Mae'r amgueddfa yn cynnwys eitemau sydd wedi eu rhoi gan aelodau o'r cyhoedd wedi apêl yn gynharach yn y flwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys hen bapurau newydd, rhaglenni a thocynnau.

Mae'r amgueddfa ar agor o 11am i 4pm yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod tan ddydd Sadwrn 31 Mai.

Image caption Roedd y cyn-chwaraewr Mickey Thomas yn westai arbennig
Image caption Mi fuodd na apêl am eitemau gan y cyhoedd

Straeon perthnasol