Trigolion Llandudoch yn cofio am yr Ail Ryfel Byd

Rhai o'r milwyr Americanaidd ger Eglwys y Mwnt, Aberteifi, yn ystod yr Ail Ryfel Byd Image copyright Arall
Image caption Rhai o'r milwyr Americaniaidd yn ymarfer ger Eglwys y Mwnt, Aberteifi, yn ystod yr Ail Ryfel Byd

70 mlynedd ers i filoedd o filwyr y Cynghreiriaid lanio ar draethau Normandi ar 6 Mehefin, 1944, mae gan un pentre' yn Sir Benfro reswm penodol i gofio am yr hanes.

Bu nifer o Americanwyr yn aros yn Llandudoch am rai misoedd, wrth iddyn nhw ymarfer ym mynyddoedd y Preseli cyn croesi draw i Ffrainc.

Mae prosiect Hanes Llandoch wedi cael grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i edrych ar hanes y ddau ryfel byd.

Dros yr wythnosau nesa', bydd y pentre'n cynnal nifer o ddigwyddiadau i gofio am y cysylltiadau â'r Ail Ryfel Byd, ac mae nifer o Americanwyr wedi'u gwahodd draw.

Bydd rhai o'r pentrefwyr sy'n cofio'r milwyr yn Llandudoch yn cwrdd â'r teuluoedd.

Hel atgofion

Meddai Mair Garnon James: "Doedde' nhw ddim yma'n hir cyn croesi draw i Ffrainc, a nifer wedi colli'u bywydau wedyn, wrth gwrs.

"Roedde' nhw'n aros yn yr hen wyrcws yng Nghastell Albro, a doedden ni ddim yn cael mynd yn agos at y safle. Ond roedden ni'n eu gweld nhw pan oedden nhw'n dod allan i'r pentre' neu'n teithio i rywle."

Roedd Teifion Toft yn gweithio i'r gwasanaeth post ar y pryd, yn dosbarthu negeseuon telegram.

"Ro'n i'n dod ar draws nifer o'r milwyr wrth fynd o gwmpas y lle," meddai. "Roedde' chi'n cwrdd â rhai ohonyn nhw'n y dre ar ddydd Sadwrn hefyd, a ddes i 'nabod rhai ohonyn nhw fel ffrindiau wedyn."

Bydd yr ymwelwyr yn teithio o gwmpas yr ardal i weld gwahanol safleoedd sydd â chysylltiad â'r rhyfel.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Eglwys y Galon Gysegredig, Henllan, a adeiladwyd gan garcharorion rhyfel o'r Eidal yn 1944, yw'r unig un o'i bath ar dir mawr Prydain

Eglwys unigryw

Un daith benodol yw'r ymweliad ag Eglwys y Galon Gysegredig yn Henllan, ger Llandysul, ddydd Mercher.

Cafodd yr eglwys ei sefydlu mewn gwersyll rhyfel yno, wedi i Eidalwyr oedd yn garcharorion yno addasu un o'r cytiau.

Wrth ddefnyddio eitemau pob dydd fel pecynnau bwyd brecwast a thuniau bwyd fe adeiladodd y carcharorion allor a lle addoli.

Yr hanesydd lleol, a chyn brifathro Ysgol Gynradd Llandudoch, Jon Meirion Jones, fydd yn arwain y daith, a dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn edrych 'mlaen at y profiad. Mae Mr Jones wedi ysgrifennu llyfr ar hanes yr eglwys, Y Llinyn Arian.

"Dw i wedi arfer tywys pobl o gwmpas y safle'n aml - ond bydd yn ddifyr iawn tywys yr Americanwyr o gwmpas y tro hyn. Rwy'n teimlo emosiwn arbennig bob tro fydda' i'n mynd i Henllan," meddai.

"Eglwys y Galon Gysegredig yw'r unig eglwys o'i bath ar dir mawr Prydain - mae 'na un ar Ynysoedd Erch, ond hon yw'r unig un ar y tir mawr. Dim ond saith sydd 'na drwy'r byd.

Image copyright Arall
Image caption Wrh roi'r tlws hwn i'r gymuned, roedd y carcharorion Eidalaidd eisiau dangos eu gwerthfawrogiad am groeso'r Cymry

"Yr Eidalwyr gododd yr eglwys - a mae hithau'n union 70 mlwydd oed fis Medi eleni.

"Cafodd yr eglwys ei chreu o gaban cyffredin, a'r carcharorion yn defnyddio llysiau, blodau a thobaco i wneud lluniau ar y muriau. Mae 'na lun o'r swper ola' ac ati. Mae'r pileri wedi'u gwneud mas o duniau corn bîff a cocoa, a chanwyllbrenau wedi'u gwneud o duniau ac yn y blaen.

"Roedd yr Americanwyr yn y fro yr un pryd â'r Eidalwyr," esboniai Mr Jones. "Tra roedd yr Eidalwyr yn gaeth, neu'n helpu ar rai o'r ffermydd lleol, roedd yr Americanwyr yn gwersylla. Roeddan nhw'n dod ar draws ei gilydd yn yr hwyr, neu ar y ffermydd."

'Dangos gwerthfawrogiad'

Un o'r carcharorion, yr artist diweddar Mario Ferlito, oedd yn gyfrifol am nifer o'r lluniau crefyddol. Bu farw Mr Ferlito yn 2009 yn 87 oed.

Ychwanegodd Mr Jones: "Adeg Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun yn 1986, roedd yr Eidalwyr - yn enwedig Mario Ferlito, ddaeth yn ffrind agos i mi, yn teimlo eu bod eisiau dangos eu gwerthfawrogiad i'r gymdeithas yn Llandudoch.

"Roedd yr Eidalwyr yn teimlo fod y Cymry wedi bod mor waraidd 'efo nhw, bod nhw wedi'u parchu a gwella'u bywyd nhw. Felly roeddan nhw am gyflwyno rhywbeth i ddiolch. Yn 1986, fe gyflwynon nhw dlws heddwch i'r ardal - a chafodd hwnnw ei roi i'r Archdderwydd ar y pryd, Elerydd - sef W.J. Gruffydd - ar lwyfan yr Eisteddfod."

'Heddwch ac amicizia'

Image copyright Arall
Image caption Roedd nifer o'r Americanwyr yn aros yn ardal Llandudoch

Roedd y tlws, a luniwyd gan y gemydd Rhiannon o Dregaron, yn rhan o seremonïau Cymru a'r Byd am flynyddoedd, a bellach mae'r tlws yn cael ei gludo o un ardal i'r llall wrth i'r Brifwyl deithio o amgylch Cymru.

"Mae'n dlws hyfryd," meddai Mr Jones. "Mae wedi'i wneud mas o lechen ar blinth prên. Llechen goch a llechen werdd, a weiren bigog arian - lliwiau'r ddwy wlad. Mae saith o ddwylo'n ymestyn allan o'r lechen, sy'n symbol o estyn brawdgarwch, ac mae'r geiriau 'heddwch' ac 'amicizia' (cyfeillgarwch) arno.

"Fe fydd y tlws yn cael ei ddangos yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin tan ddiwedd yr Eisteddfod, felly rwy'n mynd i annog yr Americanwyr i fynd i'w weld.

"Doedd y carcharorion ddim yn deall y rhyfel, a pham eu bod yn ymladd yn erbyn pobl fel y Cymry. Roeddan nhw'n falch eu bod wedi'u tynnu mas o'r rhyfel.

"Roedd Mario'n dweud ei fod wedi'i gyflyru i gasáu pobl, i'w lladd. Ond ar ôl bod yng Nghymru, a'r ffordd yr oedd y Cymry wedi'u trin, roedden nhw eisiau gadael rhywbeth i Gymru."

Hefyd ar y BBC