Dŵr Cymru i gadw biliau yn isel i rhwng 2015 a 2020
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru yn bwriadu cadw eu biliau yn isel iam gyfnod o bum mlynedd, yn ôl yr awdurdod rheoleiddio gwasanaethau dŵr, Ofwat.
Dywedodd Ofwat bod Dŵr Cymru yn barod i ymrwymo i gadw biliau 5% yn is na chwyddiant, rhwng 2015 a 2020.
Bydd hyn yn digwydd tra mae'r cwmni yn buddsoddi mwy na £2.5 biliwn yn y rhwydwaith.
Mae cwmnïau dwr yn gorfod datgan eu cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â beth fyddent yn gofyn i gwsmeriaid dalu, er mwyn i Ofwat ddyfarnu os ydynt yn deg.
Roedd Ofwat wedi rhybuddio cwmnïau i geisio cadw'r prisiau mor isel â phosib.
Cydbwysedd Cywir
Dywedodd Prif Weithredwr Ofwat, Cathryn Ross: "Rydym yn cydnabod bod ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn hanfodol os yw cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn mynd i aros yn ddilys yn llygaid eu cwsmeriaid.
"Bydd y penderfyniadau drafft yn helpu i gynnal ac adeiladu hynny."
Mewn cyd-datganiad dywedodd cadeirydd Glas Cymru [sy'n rheoli Dwr Cymru] Bob Ayling, a phrif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones eu bod yn falch o dderbyn y penderfyniad drafft cynnar gan Ofwat, er mwyn mynd ati i baratoi cynllun busnes.
Dywedodd y datganiad: "Rydym yn credu bydd y cynllun busnes, sydd wedi ei lunio gan ein cwsmeriaid, yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau gwelliannau parhaus i'r gwasanaethau a chadw biliau yn fforddiadwy."
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2013
- 27 Gorffennaf 2013