Carwyn Jones: angen deall y bleidlais i UKIP
- Cyhoeddwyd

Mae angen deall pam roedd cymaint wedi pleidleisio i UKIP yn etholiadau Ewrop yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones,
Wrth siarad â BBC Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, dywedodd Mr Jones ei fod yn hapus bod Llafur wedi cyrraedd y brig yn yr etholiad, ond roedd yn siomedig ar faint pleidlais UKIP, yn ogystal â'r nifer bach wnaeth fwrw eu pleidlais.
Anodd deall
Meddai : "Maen nhw yn pleidleisio UKIP am nifer o resymau, ond ein gwaith ni ydi darganfod pam eu bod yn gwneud, mae'n anodd iawn deall beth oedd y neges gan y rhai a bleidleisiodd UKIP.
"Roedd rhai yn wrth -Ewropeaidd, ond wnes i gyfarfod rhai oedd yn ei wneud yn syml fel pleidlais protest."
Dywedodd Mr Jones ei fod yn disgwyl i'r bleidlais brotest symud yn ôl i'r pleidiau traddodiadol. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio na fyddai'r bleidlais brotest yn caledu a chael effaith negyddol ar economi Cymru.
Craffu UKIP
Roedd yn rhagweld y bydd mwy o graffu ar bolisïau UKIP erbyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2015.
Ychwanegodd: "Roedd ganddynt neges glir iawn, does dim amheuaeth am hynny, ond mewn etholiad cyffredinol neu'r etholiad cynulliad, rhaid iddyn nhw wneud mwy na hynny. Mae'r gwningen yn y goleuadau nawr, mae phobl yn haeddu cael gwybod yn union ble maen nhw'n sefyll ar iechyd, ar addysg, ar rôl Prydain yn y byd. Ar hyn o bryd does ganddynt ddim atebion i'r cwestiynau yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014