Gruffudd Antur yn ennill Cadair Meirionnydd
- Cyhoeddwyd
Gruffudd Antur yn siarad gyda BBC Cymru
Gruffudd Antur yw prifardd Eisteddfod yr Urdd ym Meirionnydd, 2014.
Daw Gruff o Lanuwchllyn, ger y Bala.
Cadeiriwyd Gruffudd ym mhafiliwn yr Eisteddfod b'nawn dydd Iau, ac yntau 'gartref' yn ei filltir sgwâr. "Mae ennill gartref yn fraint â hanner!" eglurodd Gruffudd.
Dyw'r fraint ddim yn ddieithr i Gruffudd, enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn Eryri 2012.
Erbyn hyn, mae Gruffudd wedi graddio mewn Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth.
Bellach, mae'n astudio ar gyfer gradd MA mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gobeithio cychwyn ei gwrs doethuriaeth yno fis Hydref.
Pelydrau
Cyflwynir y gadair i'r Prifardd am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun Pelydrau.
Mari George ac Eurig Salisbury oedd beirniaid y gystadleuaeth a chyflwynwyd y gadair eleni gan NFU Cymru Meirionnydd. Mae'r Undeb yn ddiolchgar i'r gwneuthurwyr am eu gwaith cywrain, John Pugh a Iolo Puw.
Wrth rannu'r feirniadaeth dywed y beirniaid: "Cafwyd pedwar ar ddeg o ymgeiswyr eleni, ac mae pob un o'r cystadleuwyr yn dangos addewid.
"Gwnaethom ein dau fwynhau darllen y cerddi i gyd, a braf iawn oedd gweld bod pob un o'r bobl ifanc hyn wrth eu bodd yn chwarae gyda geiriau."
I frig y rhestr daeth cerdd 'Gwenno', sef Gruffudd Antur, am ei gerdd fuddugol. Yn ôl y beirniaid:
"O'r darlleniad cyntaf, cawsom ein gwefreiddio gan awdl Gwenno. Cân serch yw hi ac yn wahanol i bob cystadleuydd arall, mae safon cerdd Gwenno yn gyson uchel o'r dechrau i'r diwedd. Mae swyn aeddfed y gynghanedd yn serio llinellau telynegol fel hyn yn y cof:
Yr hen ddyheu yn troi'n ddall
yn dawel; minnau'n deall
fod heulwen loywa'r ennyd
yn gorfod darfod o hyd,
a rhaid i'r ha' ei droi'i hun
o hyd yn hydref wedyn."
Hyd ei oes
"Gyda chlod mawr y mae Gwenno yn llawn haeddu cadair yr Eisteddfod," meddai'r beirniaid.
Mae Gruffudd wedi bod yn cystadlu ac yn ymwneud â'r Urdd ar hyd ei oes fel rhan o Adran Llanuwchllyn, Ysgol y Berwyn, Aelwyd Pantycelyn ac Aelwyd Penllyn.
Meddai bod ei ddyled a'i ddiolchgarwch yn aruthrol i'w deulu, ei gyfeillion, ei athrawon, ei ddarlithwyr a'i holl ffrindiau am ennyn ei ddiddordeb mewn barddoniaeth a'r 'pethe', ac am wneud y cyfan yn gymaint o hwyl ar hyd y daith - "maen nhw'n gwybod yn iawn pwy ydyn nhw, gobeithio!" meddai Gruffudd.
Yn ail yn y gystadleuaeth eleni y mae 'Mallt' sef Steffan Gwynn, Aelod Unigol Tu Allan i Gymru ac yn drydydd 'Selfieynfflandrys' sef Guto Dafydd, Aelod Unigol Cylch Llŷn, Eryri.