Agor 'calon' Glan-llyn
- Cyhoeddwyd

Mae Carwyn Jones wedi agor Y Plas yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Mae prif adeilad y gwersyll wedi cael ei adnewyddu, yn dilyn buddsoddiad o £450,000 gan yr Urdd yn ogystal â £75,000 o gymorth ariannol gan Gronfa Cyfenter.
Mae'r gronfa hon, sy'n cael ei gweinyddu gan Menter Môn, sy'n darparu buddsoddiad cyllidol i fentrau cymdeithasol.
Yn rhan o'r prosiect, mae 18 o ystafelloedd gwely wedi eu huwchraddio, gan greu ystafelloedd en-suite, ac ail wneud ffenestri a lloriau.
Yn ogystal, fe adnewyddwyd dwy ystafell gyfarfod Y Parlwr a'r Neuadd Wen, y toiledau a'r caban sychu dillad.
Fe gafodd y grisiau sy'n ganolbwynt i'r adeilad eu hail-wampio, hefyd.