Dydd Gwener ar faes y 'Steddfod
- Cyhoeddwyd

Gruffudd Antur aeth a'r Gadair - ond pwy aiff a'r Goron?
Diwrnod yr hogyn o Fro'r Eisteddfod eleni oedd hi ddydd Iau, wrth i Gruffudd Antur ennill y Gadair am yr eildro.
Tybed ai llenor lleol fydd yn cipio'r Goron? Dyna brif seremoni dydd Gwener, am 14:30.
Tro disgyblion hŷn yr ysgol uwchradd ydy hi ar bumed diwrnod y cystadlu.
Yn ystod y nos, mae noson o gystadlaethau i gerddorfeydd neu fandiau.
Bwrlwm y maes
Mae'r Maes yn fwdlyd o dan draed ond mae pethau'n edrych yn obeithiol ar gyfer heddiw
Ar lwyfan perfformio'r maes, mae cyfle i wylio Colorama, Kizzy Crawford, Mr Huw, Chwalfa a Gwibdaith Hen Fran.
Mae hi'n parhau i fod yn wlyb dan draed ar feysydd Y Rhiwlas, felly wellingtons ydy gair y dydd eto heddiw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014