Gwahardd mwy o nyrsys fel rhan o ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Mae tair nyrs arall wedi cael eu gwahardd o'u gwaith fel rhan o ymchwiliad i honiad bod cofnodion cleifion wedi cael eu ffugio mewn ysbytai yn ne Cymru.
Fe ddaw'r cadarnhad o hynny wedi i saith nyrs gael eu gwahardd o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynharach yn y mis.
Mae dau weithiwr arall o'r ysbyty hwnnw wedi cael eu gwahardd ynghyd ag un arall o Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Fe gafodd tair nyrs arall eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod wedi gweithredu ar ôl cynnal archwiliadau byr-rybudd ar gofnodion lefelau glwcos yn y gwaed ar draws eu holl ysbytai.
Dechreuodd yr ymchwiliad wedi i bryderon godi am gadw cofnodion yn 2013.
Arweiniodd hynny at arestio tair nyrs ar amheuaeth o esgeulustod wedi honiadau bod nodiadau wedi cael eu ffugio.
Cafodd y tair eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad troseddol barhau.
Straeon perthnasol
- 18 Mai 2014
- 11 Mehefin 2013