Arestio dau mewn ymchwiliad i dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiad o dwyll yng nghwmni Padarn Bus yn Llanberis, Gwynedd.
Mewn datganiad byr ar ran yr heddlu, dywedodd y Ditectif Arolygydd Stephen Williams:
"Mae dau berson wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad.
"Cafodd un - menyw 28 oed, ei harestio a'i holi ar Fai 24. Wedi iddi gael ei holi fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth er mwyn caniatáu i'r heddlu gwblhau'r ymchwiliad.
"Cafodd yr ail - dyn 44 oed - ei arestio yn gynharach heddiw {Dydd Iau, 29 Mai} ac mae'n cael ei holi ar hyn o bryd mewn gorsaf heddlu leol.
"Gan fod yr ymchwiliad yma yn parhau i fynd rhagddo, ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar gynlluniau i liniaru unrhyw dramgwyddo i deithio oherwydd unrhyw ddiddymu gwasanaethau gan y cwmni.
"Bydd unrhyw newidiadau i wasanaethau yn cael eu hysbysebu gan Gyngor Gwynedd a Traveline Cymru."