Diwrnod olaf camerâu diogelwch Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Bydd tua 50 o gamerâu diogelwch yn cael eu diffodd ar Ynys Môn heddiw, wrth i'r Cyngor geisio arbed gwariant o £177,000.
Bydd y gwaith o ddatgymalu'r camerâu yn dechrau cyn hir ym Miwmares, Caergybi, Llangefni, Porthaethwy ac Amlwch.
Mae'r penderfyniad i gael gwared â'r camerâu CCTV wedi achosi pryder ar draws yr ynys ac wedi ei feirniadu gan Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd.
Yn ôl Winston Roddick mae gan gynghorau ddyletswydd i ddiogelu'r cyhoedd, ac mae Heddlu'r Gogledd wedi gwario £1miliwn ar y camerâu yn ddiweddar.
Mae'r camerâu wedi helpu'r heddlu i daclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn nhrefi'r ynys, ac mae gwrthwynebiad i'r penderfyniad ymhlith y cynghorau tref a chymuned.
'Cam yn ôl'
Yn ôl Maer Llangefni, y Cynghorydd Margaret Thomas: "Mae hyn yn gam yn ôl ac yn rhoi diogelwch pobl ar y stryd mewn perygl."
Ond mae argyfwng ariannol Cyngor Ynys Môn wedi eu gorfodi i chwilio am arbedion newydd, ac fe benderfynwyd, ar ôl proses ymgynghori, i gael gwared â'r camerâu.
Mae nifer o gynghorau cymuned yn obeithiol y gallai rhai o'r camerâu gael eu hachub maes o law. Mae rhai ohonynt wedi holi yn barod ynglŷn â chymryd cyfrifoldeb lleol dros y CCTV.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Bydd y gwasanaeth yn dod i ben ddydd Gwener, fodd bynnag, bydd y camerâu ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig yn parhau yn ei le hyd nes bydd y trafodaethau gyda chynghorau tref sydd wedi mynegi diddordeb mewn cymryd nhw drosodd gael eu hystyried. "
Straeon perthnasol
- 16 Rhagfyr 2013