Gofalwyr yn colli achos 'treth ystafell wely'
- Published
Mae cwpl o Sir Benfro sy'n gofalu am eu hŵyr sydd ag anabledd difrifol wedi colli eu hachos llys yn herio'r "dreth stafell wely."
Mae Paul a Susan Rutherford, o Glunderwen, yn gofalu am eu hŵyr, Warren, mewn tŷ gafodd ei addasu yn arbennig, sy'n cynnwys ystafell ychwanegol i ofalwyr aros ynddo dros nos.
Roedd yr achos yn ymwneud a newidiadau i reolau sydd wedi arwain at leihau budd-daliadau tenantiaid tai cymdeithasol sydd ag ystafelloedd gwag.
Mae'r rheolau yn caniatáu ystafell sbâr i oedolion sydd angen gofal dros nos, ond does dim rheol ar gyfer plant.
Apêl
Yn yr Uchel Lys yn Llundain, cafodd eu hachos am adolygiad barnwrol i gyfreithlondeb y rheolau ei wrthod gan Mr Ustus Stuart-Smith.
Cafodd y cais ei wrthod gan fod Mr a Mrs Rutherford wedi derbyn taliad gan Gyngor Sir Penfro sy'n gyfystyr a'r lleihad mewn budd-dal am flwyddyn.
Yn dilyn yr achos, dywedodd Mr a Mrs Rutherford eu bod yn bwriadu apelio'r dyfarniad.
Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau eu bod "yn falch" gyda'r penderfyniad.
"Rydyn ni wedi rhoi £345m i gynghorau ers i'r newidiadau gael eu cyflwyno i helpu teuluoedd bregus all fod angen mwy o gymorth.
"Mae dileu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn newid teg ac angenrheidiol. Bydd yn rhoi gobaith i deuluoedd mewn cartrefi sy'n orlawn ddod o hyd i gartref o'r maint iawn ac yn helpu i reoli gwariant ar y budd-dal tai."
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Mai 2014