Carcharu nyrs am ymosodiadau rhyw
- Published
Mae nyrs wedi ei garcharu am 18 mis am ymosodiadau rhyw ar ddwy glaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Benedyct Czajkowski, 58, o Grangetown, Caerdydd wedi ymosod ar y ddwy ddynes wrth iddo weithio shifft nos.
Roedd wedi cyffwrdd yng nghorff un o'r cleifion, ac wedi tynnu dillad isaf y llall ar ôl iddi ganu cloch am gymorth.
Cafwyd yn euog o ddau achos o ymosod rhyw ac un o ymosod yn gorfforol.
Clywodd y llys bod y troseddau wedi digwydd ar yr un noson.
Dywedodd Czajkowski bod rhesymau meddygol dros gyffwrdd yn y ddwy ddynes, a gwadodd y cyhuddiadau.
Dywedodd y Barnwr William Gaskell: "Roedden nhw yn yr ysbyty am eu bod yn sâl ac fe wnest ti fanteisio ar y sefyllfa."
Ychwanegodd y barnwr dylai unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd sy'n manteisio fel hyn, wybod y bydden nhw'n: "mynd i'r carchar, ac yn mynd i'r carchar yn syth."