Lluniau'r Urdd dydd Gwener / Friday's pictures from the Urdd Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Côr Ysgol Syr Hugh Owen
Disgrifiad o’r llun,
Côr merched o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, yn ymarfer cyn eu perfformiad (A choir from Ysgol Syr Hugh Owen practise before their performance).
Elin Haf Davies
Disgrifiad o’r llun,
Soniodd Elin Haf Davies, Llywydd dydd Gwener, am bwysigrwydd rhoi cyfle i bob plentyn gymryd rhan (Today's President, Elin Haf Davies, talked about the importance of giving every child a chance to achieve).
Disgrifiad o’r llun,
Mae llaeth, llâth neu lefrith ar gael gyda'ch paned ym mhabell Undeb Amaethwyr Cymru (There's plenty of milk to go with your tea at the FUW stall).
Disgrifiad o’r llun,
Mari Eluned o Fallwyd ger Dolgellau sydd wedi gwneud y goron o aur, arian a llechen Meirionnydd (The crown this year is made by Mari Eluned from Meirionnydd slate, silver and gold).
Disgrifiad o’r llun,
Roedd gwirfoddolwyr yn hel arian i'r Ambiwlans Awyr heddiw (Volunteers helped to raise funds for the Welsh Air Ambulance today).
Disgrifiad o’r llun,
Mae Hywel Gwynfryn yn gweld popeth tra'n darlledu ar y maes (BBC Radio Cymru broadcaster Hywel Gwynfryn watches the world go by whilst on air).
Disgrifiad o’r llun,
Teulu o Lanrwst yn cwrdd â chymeriadau Gwlad y Rwla (A family from Llanrwst meet their favourite characters from Angharad Tomos's Gwlad y Rwla series).
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd beirniaid y Goron, Dewi Prysor a Bethan Gwanas, fod gwaith Llio Maddocks wedi eu 'gwefreiddio' (Adjudicators Dewi Prysor and Bethan Gwanas described the work of Crown winner Llio Maddocks as a 'feast of a story').
Disgrifiad o’r llun,
Enillydd y Goron, Llio Maddocks o Lan Ffestiniog (Llio Maddocks, full of happiness after winning the Crown).
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Urdd yn ceisio hybu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon (The Urdd now offers more opportunities to take part in sports through the medium of Welsh).
Disgrifiad o’r llun,
A hithau'n ardal amaethyddol, mae hen dractorau yn cael eu dangos ar faes yr eisteddfod yn y Bala (The old tractors on the eisteddfod field reflect the rural nature of the area).