Coron yr Urdd i ferch o Feirion

  • Cyhoeddwyd
Llio Maddocks: enillydd y Goron
Disgrifiad o’r llun,
Llio Maddocks: enillydd y Goron

Llio Maddocks yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd ym Meirionnydd eleni.

Yn wreiddiol o Lan Ffestiniog, mae Llio bellach yn byw yn Llundain.

Mae hi'n gweithio i gwmni cyhoeddi llyfrau print a digidol bydeang yno a'i breuddwyd yw ennill ei bywoliaeth fel awdur.

Fe gafodd hi'r Goron am ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema Pellter.

'Hoelio sylw'

Roedd 'na 17 ymgais a dywedodd y beirniaid, Dewi Prysor a Bethan Gwanas, fod tri yn sefyll allan yn gystadleuaeth a chwech arall yn haeddu sylw.

Llongau Bach ddaeth i'r brig, ffugenw Llio.

Yn ôl y beirniaid: "Roedd brawddeg agoriadol Llongau Bach yn bendant yn hoelio sylw'r ddau ohonom. Dyma awdur sy'n gwybod sut i sgwennu: mae yma stori dda, deimladwy, deialogi gwych, hiwmor cyfoes a naturiol a sylwadau crafog am gymdeithas heddiw.

"Mae'n gallu cyfleu popeth mor gynnil: galar, sioc, cyfeillgarwch, snobyddiaeth, diffygion cyrsiau sgwennu creadigol ... mae hon yn wledd o stori sy'n llifo'n berffaith, ac roedden ni'n methu ei rhoi i lawr."

Mae Llio yn hoff o ysgrifennu creadigol ers yn ifanc: "Ces fy annog i sgwennu'n greadigol yn yr ysgol, yn arbennig gan Miss Gwen Edwards, Pennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

'Cystadlu'n aml'

"Bûm yn cystadlu mewn amryw o eisteddfodau lleol, ac enillais dlws Llenyddiaeth Ieuenctid yn Eisteddfod Mynytho yn 2013."

Aeth Llio i Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, cyn astudio Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Leeds.

Mae wedi bod yn aelod brwd o Ysgol Glanaethwy am wyth mlynedd, a chafodd flas yno ar ysgrifennu sgriptiau. Ei gobaith yw gweithio fel golygydd.

"Dw i wedi cystadlu'n aml yn Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol ar gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref, a hon yw'r ail waith i mi gystadlu am y Goron."

Fe gafodd y Goron eleni ei chyflwyno gan Undeb Amaethwyr Cymru a diolchodd yr undeb i Mari Eluned, Mallwyd, am greu'r Goron gywrain.

Yn ail yn y gystadleuaeth eleni roedd Patrobas, Iestyn Tyne o Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor, Cylch Llŷn ac yn drydydd roedd Bendramwsogl, sef Miriam Elin Jones, Aelod Unigol, Cylch Caerfyrddin.