Drama 'Gwyn' ar daith

  • Cyhoeddwyd
drama gwyn
Disgrifiad o’r llun,
Bryn Fon a Rhodri Sion sy'n serennu

Ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala ddydd Sadwrn, mae Cwmni'r Frân Wen yn lansio taith genedlaethol drama i blant, 'Gwyn'.

Mae'r cwmni wedi cyfieithu drama Andy Manley, White, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Gwmni Catherine Wheels o'r Alban.

Bryn Fôn a Rhodri Sion sy'n serennu yn y cynhyrchiad.

Yn rhan o'r lansiad, mae Mirain Fflur, enillydd Ysgoloriaeth Celf Eisteddfod yr Urdd 2014, yn cynnal gweithdy i blant yn seiliedig ar y sioe.

'Popeth yn ei le'

Yn 'Gwyn', mae'r actorion yn cyflwyno plant i fyd natur prydferth gwyn lle mae lle i bopeth a phopeth yn ei le.

Bywydau syml a threfnus sydd gan y ffrindiau Titrwm a Tatrwm yn Gwyn.

Maen nhw'n byw mewn pabell wen ac yn gofalu am y tai adar o'u cwmpas. Bob dydd, mae'r ffrindiau'n sicrhau fod eu byd prydferth a threfnus yn parhau'n ddisglair a gwyn.

Ond, tybed beth fydd yn digwydd pan fydd lliw yn ymddangos am y tro cyntaf? Sut wnaiff y ffrindiau ddygymod â'r newid byd?

'Fy nghyfareddu'

"Mae Gwyn yn berfformiad hudolus braf, sy'n cynhesu'r galon!" meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni'r Frân Wen.

"Gwelais y perfformiad am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Theatr Plant a Phobl Ifanc Copenhagen yn 2011.

"Cefais fy nghyfareddu gan ddyfnder emosiynol y cynhyrchiad. Mae ei ddelweddau, cymeriadau, cerddoriaeth a'i ddiweddglo trawiadol yn parhau'n fyw yn fy nghof.

"Rydym fel cwmni yn ymfalchïo ein bod yn gallu cynnig cyfle i blant ar draws Cymru fwynhau'r gwaith am y tro cyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg," ychwanegodd Iola.

Mae actio o flaen cynulledifa ifanc yn brofiad newydd i Rhodri Sion, sy'n chwarae rhan Titrwm yn Gwyn:

"Mae hynny'n mynd i fod yn sialens i mi, ond fel tad i ddwy o genod dan pedair oed gobeithio fod gen i fymryn o syniad sut i gyfathrebu hefo plant o'r oed yma."

Angharad Tomos sydd yn gyfrifol am y cyfieithiad.