86,000 o ymwelwyr i Eisteddfod yr Urdd y Bala
- Cyhoeddwyd

Roedd dros 86,000 o ymwelwyr i faes Eisteddfod yr Urdd dros yr wythnos diwethaf, wrth i drefnwyr ddisgrifio'r ŵyl fel "wythnos wych" ar ddiwrnod olaf y cystadlu.
86,294 oedd y ffigwr derfynol ar gyfer yr wythnos, gyda'r nifer fwyaf, 20,203, wedi ymweld ddydd Mawrth.
Mae'r ffigwr tua 4,500 yn uwch na'r cyfanswm ymwelwyr yn Eisteddfod Sir Benfro'r llynedd.
Tro'r cystadleuwyr dan 25 oed a'r aelwydydd oedd hi i ddisgleirio ddydd Sadwrn, gyda chystadlaethau corau i aelwydydd, y cyflwyniad dramatig unigol a'r unawd o sioe gerdd yn cael eu cynnal.
Yn ddiweddarach, bydd rhestr y cystadleuwyr ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn cael ei gyhoeddi.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn: "Rydym wedi cael wythnos wych yn Y Bala, ac yn hynod o falch bod ein staff, stiwardiaid, stondinwyr a'n partneriaid wedi gwneud hi'n ŵyl wych a chystadlu hwylus i'n plant a phobl ifanc."
- Roedd dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda bron i 300 o wirfoddolwyr yn stiwardio.
- Cafodd 1,600 o dracfyrddau metel eu gosod ar gaeau'r ŵyl a 500 o draciau plastig i gerddwyr, a chafodd 35 tunnell o goed mân eu gosod ar y ddaear wedi'r glaw cyn yr ŵyl.
- Mae Pentre' Mistar Urdd wedi cael wythnos brysur, gyda 1,189 o hwdis wedi eu gwerthu, a 2,011 wedi cael sesiynau blasu yn yr Ardal Chwaraeon.
- Mae staff y Pentre' wedi gwrando ar arwyddgân answyddogol yr Urdd, 'Hei Mistar Urdd' 1,800 o weithiau yn ystod yr wythnos wrth ddiddanu pobl ifanc.
- Mae'r 60 o staff yr Urdd ar y maes wedi gwisgo eu welingtons am dros 7,200 o oriau yn ystod yr wythnos.
- Yng Nghaffi Mistar Urdd cafodd 1,189 o wyau, llond saith bath o ffa pob, 7,600 sleisen o facwn, 2,500 o frechdanau a bron i 4,000 o baneidiau tea a choffi eu gwneud i ymwelwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn ei fod yn falch o'r ffordd yr oedd yr ŵyl wedi gweithio.
"Roedd y trefniadau teithio yn ddidrafferth eleni, a phawb wedi ymdopi'n dda er gwaetha'r tywydd anffafriol cyn yr Eisteddfod.
"Roedd safon y cystadlu, fel arfer, yn hynod o uchel ac mae yn deimlad braf ein bod ni yn gallu cynnig llwyfan i nifer o sêr y dyfodol.
"Hoffwn hefyd ddiolch o galon i bawb sydd wedi cynorthwyo i baratoi a threfnu'r digwyddiad arbennig hwn, ac i'r cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino gydol yr wythnos a chyn hynny yn yr ardal yn codi arian. Fyddai dim ohono yn bosibl hebddyn nhw."
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Hedd Pugh bod yr wythnos wedi rhedeg yn "esmwyth iawn".
"Mae'r traffig wedi llifo a'r parcio wedi bod yn wych diolch i waith criw Clwb Rygbi'r Bala.
"Mae ein diolch hefyd yn mynd i holl stiwardiaid eraill yr Eisteddfod, sydd wedi tynnu ynghyd gan weithio oriau hir a sicrhau bod pethau wedi llifo'n rhwydd.
"Ar ddiwedd wythnos fel hyn, y cyfan sydd ar ôl i'w wneud yw diolch yn fawr iawn i bob un o'r sir am ddangos Meirionnydd ar ei gorau i bobl Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2014
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014