Arian i adfer Castell y Gelli
- Published
Gall gwaith adfer Castell y Gelli Gandryll ddechrau wedi i ran cyntaf grant gael ei roi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
£528,600 sydd wedi ei roi er mwyn datblygu'r lle, a'r gobaith yw y bydd y pres yn help i agor drysau'r castell i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Yn ystod y 18 mis nesaf mi fydd Ymddiriedolaeth Castell y Gelli Gandryll yn edrych ar syniadau ac yn creu cynlluniau ar gyfer sut maen nhw eisiau i'r castell edrych yn y dyfodol. Yna mi fyddan nhw yn gwneud cais i gael mwy o arian er mwyn gwireddu'r weledigaeth.
Cafodd Castell y Gelli ei adeiladu yn yr 12fed ganrif gan yr Arglwydd William de Braose. Yn y 1960au fe wnaeth Richard Booth, y gwerthwr llyfrau brynu'r castell ond ers 2011 mae'r castell wedi bod yn nwylo'r ymddiriedolaeth.
Yn 1939 cafodd y lle ei ddifrodi gan dân ac eto yn 1977. Mae'r ymddiriedolaeth yn dweud nad yw'r castell yn gadarn ar hyn o bryd, gan bod y faenor heb do a'r waliau cerrig yn cwympo.
Budd economaidd
Y gobaith ydy agor llwybrau yng ngerddi'r Castell ac adfer y faenor fel ei fod yn ganolfan ar gyfer y celfyddydau ac addysg treftadaeth.
Mae'r ymddiriedolaeth yn dweud bod y lleoliad yn un da ar gyfer perfformiadau theatrig ac i gynnal gweithdai hefyd.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones longyfarch yr ymddiriedolaeth am ei chais llwyddiannus yn ystod Gwyl y Gelli ddydd Sadwrn.
"Drwy ei huchelgais, ei brwdfrydedd a'i dyfalbarhad y mae Ymddiriedolaeth Castell y Gelli Gandryll wedi llwyddo yn ei chais am arian oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri.
"Rwy'n falch bod y rownd gyntaf o gyllid yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i ddechrau datblygu ei chynlluniau i adfer yr adeilad er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu ei fwynhau yn y dyfodol."
Yn ôl Carwyn Jones, bydd datblygu'r safle yn hwb i'r ardal.
"Mae cadw ac amddiffyn ein hamgylchedd hanesyddol yn hollbwysig, o safbwynt dysgu a thwristiaeth. Dyna pam rydyn ni wedi cefnogi'r gwaith adfer ar Gastell y Gelli drwy sawl grant gan Cadw.
"Mae'r cynlluniau ar gyfer dyfodol y Castell yn gyffrous, ac mae'n dda clywed y newyddion y bydd yn agored i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. Bydd hyn, yn fy marn i, yn dod â buddion sylweddol i'r dref â'i phobl."
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Mai 2014