Dirwy o £40,000 i glwb hwylio

One of the boats involved in the crash Image copyright Wales News Service
Image caption Un o'r cychod oedd yn y ddamwain

Mae Clwb Hwylio Bae Caerdydd wedi cael dirwy o £40,000 ar ôl i ddau gwch daro'n erbyn ei gilydd gan adael merch gyda niwed i'w hymennydd.

Fe wnaeth y clwb dderbyn eu bod wedi torri'r Ddeddf Llongau Masnach am fod y rhai oedd yn gyrru'r cwch ddim yn gymwys a bod y daith wedi cael ei gwneud heb olau.

Doedd asesiad risg heb ei wneud chwaith.

Mi oedd 13 o ferched ar y cychod pan wnaethon nhw daro ei gilydd yn 2010 gan daflu'r merched i'r dwr. Mi gafodd rhai eu brifo gan gynnwys merch 11 oed a gafodd anaf i'w hymennydd.

Roedd y ddwy oedd wrth lyw y cwch wedi eu cael yn ddieuog mewn achos blaenorol.

Dywedodd y barnwr Neil Bidder: "Mae'n ffodus na wnaeth na neb farw. Mi oedd y risg i'r merched yn amlwg ac roedd safonau diogelwch y ddau ddiffynydd yn isel."