Gwrthdrawiad: ffordd ar gau
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr A470 ei gau yn y ddau gyfeiriad ym Mhowys wedi gwrthdrawiad difrifol ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn agos i Lanwrthwl ger Rhaeadr.
Cafodd yr Ambiwlans Awyr ei alw i'r safle am tua 12:00 ddydd Sadwrn.
Roedd rhaid i'r Heddlu reoli traffig ar y safle, ac roedd y ffordd fod ar gau am gyfnod.